Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy – mae’r ymgynghoriad yn fyw
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy – mae’r ymgynghoriad yn fyw
Busnes ac addysg

Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy – mae’r ymgynghoriad yn fyw

Diweddarwyd diwethaf: Medi 23, 2025 3:24 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Pontcysyllte aqueduct and canal
RHANNU

Mae ymgynghoriad ar ddyfodol tair ysgol gynradd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi’i lansio.

Yr wythnos diwethaf (16 Medi), rhoddodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ei gymeradwyaeth i ymgynghori ar ddyfodol Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy, sy’n cynnwys ysgolion cynradd yn Froncysyllte, Garth a Pentre.

Mae gofyn i aelodau’r cyhoedd – gan gynnwys rhieni a gofalwyr – rannu eu barn ar gynigion i gau’r ysgol yn Froncysyllte, tra bydd yr ysgolion yn Garth a Pentre yn cael eu cadw.

Mae niferoedd Froncysyllte wedi bod yn gostwng dros y pum mlynedd diwethaf, gyda dim ond 11 o ddisgyblion wedi’u cofrestru yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, a dim ond pedwar disgybl sydd wedi’u cofrestru hyd yma yn y flwyddyn academaidd gyfredol.

Pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i gau’r ysgol yn Froncysyllte, byddai disgyblion yn cael cynnig lle mewn ysgol amgen.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Am y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y disgyblion ym mhob un o’r tair ysgol wedi bod ymhell o fod yn llawn.

“Gyda niferoedd disgyblion mor isel a chymaint o leoedd gwag, mae’n gwneud synnwyr adolygu strwythur Ffederasiwn Dyffryn Dyfrdwy ac ystyried a yw’n gynaliadwy cadw’r tair ysgol.

“Fel cyngor, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod ysgolion yn hyfyw yn hirdymor, ond rydym hefyd yn sensitif i anghenion a dewisiadau rhieni a gofalwyr – felly rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn fel y gallwn gael eu barn cyn penderfynu sut i symud ymlaen.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 7 Tachwedd.

Rhannwch eich barn

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae data twristiaeth blynyddol 2024 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi blwyddyn gref arall o dwf Mae data twristiaeth blynyddol 2024 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi blwyddyn gref arall o dwf
Erthygl nesaf Victoria School in Wrexham Gallai cynllun peilot wneud cerdded i’r ysgol yn fwy diogel i blant Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English