Mae Wrecsam wedi bod yn cymryd rhan mewn Bwyd a Hwyl ers 9 mlynedd ac eleni cafwyd swmp enfawr o weithgareddau i bawb eu mwynhau.
Cafodd 360 o leoedd eu cynnig i blant o saith ysgol bob dydd am 12 diwrnod, gan fwynhau 4,300 o brydau bwyd a dysgu mewn 42 o sesiynau maeth.
Gallai’r disgyblion gymryd rhan mewn amrywiaeth enfawr o weithgareddau, a oedd yn cynnwys tag laser, sioeau bwystfilod bach, disgos distaw (a disgos llai distaw), celf a chrefft, byw yn y gwyllt, dawns stryd, sioeau hud, milltir ddyddiol, rygbi, tennis a llawer mwy.
Cafodd gweithgareddau eu darparu a’u cefnogi hefyd gan Wrecsam Egnïol, heddlu Gogledd Orllewin Cymru, CADW, Tennis Bwrdd Cymru, Rygbi Cymru a Groundworks.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Blwyddyn arall a llwyddiant ysgubol arall i’r prosiect Bwyd a Hwyl, gan roi cyfle i blant Wrecsam ddysgu popeth am y ffyrdd y mae bwyd yn effeithio ar iechyd wrth fynd allan a mwynhau gweithgareddau na fydden nhw’n ei gwneud fel arall o bosibl.
“Diolch i Lywodraeth Cymru am ariannu’r prosiect hwn a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i staff anhygoel ac ymroddedig pob ysgol sy’n gwneud hyn yn bosibl bob blwyddyn, yn ogystal â thîm arlwyo Cyngor Wrecsam, tîm Deieteg Betsi Cadwaladr, a’r holl ddarparwyr gweithgareddau am wneud Bwyd a Hwyl 2025 yn llwyddiant ysgubol.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.