Oes gennych chi ddrôr yn llawn ceblau? Ydych chi’n defnyddio’r holl geblau ynddo?
Yn y DU, rydyn ni’n cael gwared neu’n dal gafael ar ddigon o geblau i gyrraedd y lleuad ac yn ôl!
Mae Recycle Your Electricals yn dod â’u hymgyrch flynyddol, The Great Cable Challenge, yn ei hôl. Galwad ledled y wlad i weithredu i fynd i’r afael â’r miliynau o geblau ac offer trydanol eraill sy’n segur yng nghartrefi’r DU.
Mae Cyngor Wrecsam yn ymuno â nhw i helpu aelwydydd Wrecsam i ailgylchu eu hoffer trydanol diangen a rhoi ail fywyd i hen geblau ac offer trydanol eraill.
Pe bai’r holl drigolion yn Wrecsam yn ailgylchu un cebl yr un, gallem arbed o leiaf 675kg o gopr rhag cael ei waredu a gallwn arbed copr gwerthfawr rhag cael ei golli am byth.
Trwy ailgylchu’r ceblau hyn a hen offer trydanol eraill yn hytrach na dal gafael arnynt, gellir ailddefnyddio’r deunyddiau gwerthfawr y tu mewn i’r offer hyn a’u hailgylchu i eitemau newydd gan gynnwys ffonau symudol, gliniaduron, watshys clyfar, ynni glân a hyd yn oed offer meddygol.
Gall trigolion fynd â’u holl hen geblau ac eitemau trydanol i unrhyw un o’r tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref sydd wedi’u lleoli ledled y Fwrdeistref Sirol.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr aelod arweiniol dros wasanaethau amgylcheddol: “Mae ymchwil Recycle Your Electricals wedi canfod bod dau o bob pump o gartrefi yn y DU yn dal gafael ar eu hoffer trydanol bach mewn drôr llawn dop gyda miliynau o geblau sy’n gwneud ein cartrefi’n flêr. Gwastraff trydanol yw’r llif gwastraff sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, a’r byd, felly byddwn yn annog pob preswylydd i ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu pan fydd rhywbeth yn cyrraedd diwedd ei oes ddefnyddiol.”
Os oes gennych eitemau trydanol mewn cyflwr da, gallwch eu rhoi i siop ailddefnyddio Hosbis Nightingale House. Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu – siaradwch ag un o’r gweision a fydd yn dangos i chi ble gallwch adael yr eitemau rydych am eu rhoi.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.