Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Menter Mannau Cynnes yn dychwelyd i lyfrgelloedd Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Menter Mannau Cynnes yn dychwelyd i lyfrgelloedd Wrecsam
Pobl a lle

Menter Mannau Cynnes yn dychwelyd i lyfrgelloedd Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 24, 2025 2:05 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham library with seating area
RHANNU

Y gaeaf hwn, bydd llyfrgelloedd ledled y fwrdeistref sirol unwaith eto yn agor eu drysau i ddarparu lle cynnes i drigolion lleol.

Cynnwys
  • Darllenwch amdano yma
  • Cadw Mewn Cysylltiad
  • Rhywbeth at ddant bawb
  • Cadw mewn cysylltiad
      • Ydych chi’n gallu cynnig man cynnes?

Yn cael ei lansio ddydd Llun, Hydref 27, mae’r fenter Mannau Cynnes yn rhedeg yn ystod oriau agor ein llyfrgelloedd ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau trwy gydol misoedd y gaeaf.

Mae croeso cynnes a mynediad at ddiodydd poeth ar gael i gwsmeriaid sydd eisiau cymryd rhan ynddynt.

Darllenwch amdano yma

Yn ystod eich ymweliad, mae gan aelodau o’r cyhoedd fynediad am ddim i bapurau newydd cenedlaethol a channoedd o deitlau cylchgronau. Mae cylchgronau Cymraeg hefyd ar gael i’w pori.

Yn ogystal â phapurau newydd a chylchgronau, mae mynediad am ddim i lu o lyfrau ar gael i blant ac oedolion fel ei gilydd. O deitlau clasurol i’r gwerthwyr gorau diweddaraf, mae rhywbeth at ddant pawb ymhlith y silffoedd.

Mae llyfrau a llenyddiaeth i gefnogi dysgu ac iechyd a lles ar gael i’w darllen yn ystod eich ymweliad â’ch llyfrgell leol.

Cadw Mewn Cysylltiad

Ynghyd â’r swm diddiwedd o lyfrau a llenyddiaeth sydd ar gael, mae ein llyfrgelloedd yn cynnig Wi-Fi am ddim i ymwelwyr.

Gellir defnyddio cyfrifiaduron yn ein llyfrgelloedd ar gyfer ymchwil bellach neu ddal i fyny â’r newyddion diweddaraf.

Rhywbeth at ddant bawb

Mae ein llyfrgelloedd yn ymfalchïo mewn cynnal grwpiau a gweithgareddau ar gyfer pob oedran i ddod â ni i gyd at ein gilydd. Ni waeth beth yw eich diddordebau, gallwch fod yn siŵr bod gan eich llyfrgell rywbeth i chi.

Mae’r rhan fwyaf o’r grwpiau a’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim i ymuno ac nid yw archebu lle yn hanfodol – mae croeso i chi ddod i fyny a bod yn rhan o rai digwyddiadau gwych.

Er mwyn rhoi syniad i chi o’r hyn y gallwch chi edrych ymlaen ato, dyma grynodeb o’r hyn sy’n dod i fyny.

  • Grwpiau sgwrsio Cymraeg
  • Grwpiau Cyfeillgarwch
  • Grwpiau gwau a sgwrsio
  • Grwpiau crefft
  • Grwpiau darllen ar gyfer pob oedran
  • Amser Stori a Odli yn Gymraeg a Saesneg i blant ifanc
  • Gweithgareddau plant

Cadw mewn cysylltiad

Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli’r holl ddigwyddiadau cyffrous yn eich llyfrgell leol trwy fynd draw i wefan y llyfrgelloedd i gael yr holl fanylion am ddigwyddiadau sydd i ddod a llawer mwy.

Fel arall, gallwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau cyn gynted ag y byddant yn mynd yn fyw.

Wrth siarad am y fenter Mannau Cynnes, dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr aelod arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid: “Mae’r cyfleuster Mannau Cynnes yn ein llyfrgelloedd yn wasanaeth hanfodol yn ein cymuned gan ddarparu nid yn unig lle diogel a chynnes i bobl, ond gan ddod â ni at ein gilydd trwy amrywiaeth o grwpiau a gweithgareddau rhagorol. Trwy raglenni fel y rhain rydyn ni’n gwneud ffrindiau newydd sy’n gallu para oes. Rwy’n gobeithio y bydd llawer yn manteisio i’r eithaf ar y gwasanaeth sydd ar gael”.

Ydych chi’n gallu cynnig man cynnes?

Mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn cyllid o £64,000, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi holl lyfrgelloedd Wrecsam (a’r Hwb Lles) i gynnig mannau cynnes, yn ogystal â chynllun grantiau bach i sefydliadau a grwpiau wneud cais am hyd at £5,000.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar wefan y Cyngor. Lleoedd Cynnes Wrecsam | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Torf yn Nôl yr Eryrod ar gyfer Cynnau'r Goleuadau Nadolig yn Wrecsam. Cynnau’r Goleuadau Nadolig a Gorymdaith Llusernau 2025
Erthygl nesaf Ailgylchu eich ceblau diangen Ailgylchu eich ceblau diangen

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English