Y gaeaf hwn, bydd llyfrgelloedd ledled y fwrdeistref sirol unwaith eto yn agor eu drysau i ddarparu lle cynnes i drigolion lleol.
Yn cael ei lansio ddydd Llun, Hydref 27, mae’r fenter Mannau Cynnes yn rhedeg yn ystod oriau agor ein llyfrgelloedd ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau trwy gydol misoedd y gaeaf.
Mae croeso cynnes a mynediad at ddiodydd poeth ar gael i gwsmeriaid sydd eisiau cymryd rhan ynddynt.
Darllenwch amdano yma
Yn ystod eich ymweliad, mae gan aelodau o’r cyhoedd fynediad am ddim i bapurau newydd cenedlaethol a channoedd o deitlau cylchgronau. Mae cylchgronau Cymraeg hefyd ar gael i’w pori.
Yn ogystal â phapurau newydd a chylchgronau, mae mynediad am ddim i lu o lyfrau ar gael i blant ac oedolion fel ei gilydd. O deitlau clasurol i’r gwerthwyr gorau diweddaraf, mae rhywbeth at ddant pawb ymhlith y silffoedd.
Mae llyfrau a llenyddiaeth i gefnogi dysgu ac iechyd a lles ar gael i’w darllen yn ystod eich ymweliad â’ch llyfrgell leol.
Cadw Mewn Cysylltiad
Ynghyd â’r swm diddiwedd o lyfrau a llenyddiaeth sydd ar gael, mae ein llyfrgelloedd yn cynnig Wi-Fi am ddim i ymwelwyr.
Gellir defnyddio cyfrifiaduron yn ein llyfrgelloedd ar gyfer ymchwil bellach neu ddal i fyny â’r newyddion diweddaraf.
Rhywbeth at ddant bawb
Mae ein llyfrgelloedd yn ymfalchïo mewn cynnal grwpiau a gweithgareddau ar gyfer pob oedran i ddod â ni i gyd at ein gilydd. Ni waeth beth yw eich diddordebau, gallwch fod yn siŵr bod gan eich llyfrgell rywbeth i chi.
Mae’r rhan fwyaf o’r grwpiau a’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim i ymuno ac nid yw archebu lle yn hanfodol – mae croeso i chi ddod i fyny a bod yn rhan o rai digwyddiadau gwych.
Er mwyn rhoi syniad i chi o’r hyn y gallwch chi edrych ymlaen ato, dyma grynodeb o’r hyn sy’n dod i fyny.
- Grwpiau sgwrsio Cymraeg
- Grwpiau Cyfeillgarwch
- Grwpiau gwau a sgwrsio
- Grwpiau crefft
- Grwpiau darllen ar gyfer pob oedran
- Amser Stori a Odli yn Gymraeg a Saesneg i blant ifanc
- Gweithgareddau plant
Cadw mewn cysylltiad
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli’r holl ddigwyddiadau cyffrous yn eich llyfrgell leol trwy fynd draw i wefan y llyfrgelloedd i gael yr holl fanylion am ddigwyddiadau sydd i ddod a llawer mwy.
Fel arall, gallwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau cyn gynted ag y byddant yn mynd yn fyw.
Wrth siarad am y fenter Mannau Cynnes, dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr aelod arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid: “Mae’r cyfleuster Mannau Cynnes yn ein llyfrgelloedd yn wasanaeth hanfodol yn ein cymuned gan ddarparu nid yn unig lle diogel a chynnes i bobl, ond gan ddod â ni at ein gilydd trwy amrywiaeth o grwpiau a gweithgareddau rhagorol. Trwy raglenni fel y rhain rydyn ni’n gwneud ffrindiau newydd sy’n gallu para oes. Rwy’n gobeithio y bydd llawer yn manteisio i’r eithaf ar y gwasanaeth sydd ar gael”.