Erthygl Gwadd – Diogelwch ffyrdd Cymru
Gan fod y clociau’n troi’n ôl un awr y penwythnos hwn a chan fod yr oriau golau dydd yn mynd yn llai, mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn atgoffa defnyddwyr y ffyrdd am gymryd gofal ychwanegol a bod ar eich gwyliadwriaeth pan fyddwch chi allan yn y tywyllwch. Mae’r hydref yn aml yn dod â thywydd gwaeth a llai o welededd, gan gynyddu’r risg o wrthdrawiadau, yn enwedig rhai sy’n cynnwys defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed fel plant, pobl hŷn, cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur, a ceffylau a’u marchogion.
Galwodd Rhys John-Howes, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, am wyliadwriaeth ychwanegol wrth i’r nosweithiau tywyll ddechrau, “Mae tywyllwch yn creu mwy o her i ddefnyddwyr y ffyrdd. Dylai modurwyr yrru’n ystyriol a lleihau eu cyflymder i ateb amodau’r traffig a’r tywydd.
“Dylai gyrwyr sicrhau hefyd fod eu cerbyd yn cael ei baratoi a’i gynnal yn dda.”
I sicrhau’r gwelededd gorau posibl yn amgylchedd y ffordd, mae angen i oleuadau cerbydau fod mewn cyflwr da, yn lân ac wedi’u haddasu’n gywir. Dylai sgriniau blaen a ffenestri fod yn rhydd rhag anwedd, yn gwbl glir ac yn lân y tu mewn a’r tu allan, a dylai’r sychwyr fod yn gweithio’n gywir. Gall diffyg sylw neu welededd gwael o safbwynt y gyrrwr arwain at amserau ymateb arafach, sy’n cynyddu’r risg o wrthdrawiad.
Ychwanegodd Rhys John-Howes, “Dylai gyrwyr osgoi gadael i bethau yn y cerbyd dynnu eu sylw, ac arafu er mwyn gallu dod â’r cerbyd i stop o fewn y pellter maen nhw’n gallu ei weld yn glir.
“Ychydig funudau yn unig y bydd gwiriadau rheolaidd syml ar gerbyd yn eu cymryd ond gall y rhain helpu i sicrhau nad fydd golwg y gyrrwr o beryglon posibl yn cael ei beryglu.”
Gall defnyddwyr eraill y ffordd gyfrannu at leihau nifer yr anafiadau drwy chwarae eu rhan hefyd. Yn achos beicwyr, mae defnyddio golau blaen gwyn, golau cefn coch ac adlewyrchydd cefn coch yn ofynnol yn y nos o dan y gyfraith.
O ran cerddwyr mae llawer o gotiau, bagiau ac esgidiau yn cynnwys deunyddiau adlewyrchol sy’n eu gwneud yn fwy gweladwy yng ngoleuadau cerbydau.
Mae dewis llwybrau sydd wedi’u goleuo’n dda â goleuadau stryd a chroesi mewn mannau croesi dynodedig yn arfer da i ddefnyddwyr ffyrdd o bob oed. Gall bod yn weladwy a gofalu am bobl eraill swnio’n syml, ond mae peidio â gwneud y pethau hyn yn gallu arwain at anafiadau ar y ffyrdd a allai gael eu hosgoi.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd ymgyrch dark night dywyll yn gweld swyddogion heddlu yn cynnal gwiriadau ar y ffordd, i sicrhau bod cerbydau’n addas ar gyfer y ffordd ar gyfer misoedd y gaeaf i ddod.
Cymerwch ychydig funudau i edrych ar eich cerbyd – gallai achub bywyd.
Cadwch yn ddiogel a gofalwch am eich gilydd.


