Y Nadolig hwn, mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn.
Bydd y digwyddiad am ddim yn cael ei gynnal yn Eglwys San Silyn ddydd Mawrth, Rhagfyr 4 gan ddechrau am 7pm, ac mae croeso i bawb.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Wrecsam: “Unwaith eto, gall Wrecsam ddisgwyl noson hyfryd yn llawn ysbryd a cherddoriaeth y Nadolig. Mae gan Wrecsam gysylltiadau mor gryf â’r lluoedd arfog, ac rydym am wneud rhywbeth arbennig i ddathlu’r Nadolig a thalu teyrnged. Gadewch i ni ddathlu cyfnod yr ŵyl a dangos ein cefnogaeth i’r rhai sy’n gwasanaethu ac wedi gwasanaethu.
“Byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o gyn-filwyr ac aelodau o’r cyhoedd â phosib, felly dewch draw a helpu i wneud hon yn noson wych.”
Mae uchafbwyntiau’r digwyddiad yn cynnwys:
- Cerddoriaeth gan Fand Pres Dinas Wrecsam
- Perfformiadau gan gorau ysgolion lleol
- Gorymdaith faneri gan gymdeithasau cyn-filwyr lleol
Unwaith eto, bydd y noson arbennig hon yn cael ei chynnal i gefnogi Scotty’s Little Soldiers, elusen sy’n ymroddedig i blant a phobl ifanc y Lluoedd Prydeinig sydd wedi dioddef profedigaeth. Mae’n addo bod yn ddathliad twymgalon o gymuned, cofio, ac ysbryd y Nadolig.


