Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sbotolau ar weithgareddau llyfrgell Llai
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Sbotolau ar weithgareddau llyfrgell Llai
Pobl a lleDigwyddiadau

Sbotolau ar weithgareddau llyfrgell Llai

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 25, 2025 3:17 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Llay Resource Centre
RHANNU

Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn gweithio’n anhygoel o galed i ddod ag amserlen lawn o ddigwyddiadau i’r cymunedau lleol.

Cynnwys
  • Pawb yn ffrindiau yma
  • Hwyl yn ystod y tymor
  • Fflach artistig

Maent yn sicrhau bod amrywiaeth o sesiynau sy’n darparu ar gyfer pob oedran a diddordeb. Oeddech chi’n gwybod bod yna lawer o ddigwyddiadau am ddim y gallwch eu mynychu?

Heddiw, byddwn yn edrych ar rai o’r gweithgareddau sydd ar y gweill i chi yn llyfrgell Llai. Wedi’i leoli yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai ar Sgwâr y Farchnad, beth am alw heibio a chymryd rhan?

Pawb yn ffrindiau yma

Mae rhai pobl yn gwerthfawrogi rhywfaint o gwmni a sgwrs gyda wyneb cyfeillgar. Yn llyfrgell Llai, mae Grŵp Cyfeillgarwch wythnosol bob dydd Llun rhwng 2 pm a 4 pm ac mae am ddim.

Dyma’r ffordd ddelfrydol o wneud ffrindiau newydd neu ddal i fyny â rhai hen rai. Does dim angen cadw lle, dim ond galw heibio!

Ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis, mae Clwb Llyfrau am ddim rhwng 2pm a 3pm lle gallwch ymuno â chyd-selogion llyfrau a thrafod popeth sy’n ymwneud â llenyddiaeth. Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd sydd â diddordeb cyffredin mewn darllen.

Hwyl yn ystod y tymor

Mae digon o weithgareddau i blant o bob oed drwy gydol y tymor yn llyfrgell Llai.

Bob dydd Mercher, cynhelir sesiwn Amser Stori am ddim rhwng 2.30 pm a 3 pm i’r ymwelwyr iau â’r llyfrgell. Dilynir hyn gan y Clwb Lego wythnosol 3.30 pm – 4.30 pm i blant 4+ oed.

Mae’r digwyddiadau hyn yn wych i blant ifanc ddysgu amrywiaeth o sgiliau trwy chwarae a mwynhau ag eraill.

Mae dydd Iau am 3.30 pm yn berffaith ar gyfer artistiaid ifanc uchelgeisiol wrth i’r grŵp Crefft Iau gyfarfod yn wythnosol i greu celf wych.

Fflach artistig

Nid yw’r celfyddydau ar gyfer yr ymwelwyr ifanc â’r llyfrgell yn unig. Bob dydd Gwener 1 pm – 4 pm, mae’r grŵp Crefft Oedolion yn cwrdd yn ystod y tymor.

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, fodd bynnag, mae’n rhaid cadw lle. Dylech gysylltu â’r staff i gadw eich lle ar y sesiwn.

Am ragor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau a grybwyllir yma a mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau llyfrgelloedd. Fel arall, gallwch ffonio llyfrgell Llai ar 01978 859020 neu e-bostio lprc@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Student with their school bag Ceisiadau ar agor ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol
Erthygl nesaf Cit newydd i dîm pêl-droed yn Wrecsam sy'n dod â chyn-filwyr o bob cwr o'r sir at ei gilydd Cit newydd i dîm pêl-droed yn Wrecsam sy’n dod â chyn-filwyr o bob cwr o’r sir at ei gilydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English