Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol y Santes Fair, Brymbo – contractwr wedi’i gyhoeddi!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgol y Santes Fair, Brymbo – contractwr wedi’i gyhoeddi!
Busnes ac addysg

Ysgol y Santes Fair, Brymbo – contractwr wedi’i gyhoeddi!

Diweddarwyd diwethaf: 2025/12/11 at 1:31 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
St Mary's Brymbo
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn falch o allu cyhoeddi bod y prosiect i adeiladu safle newydd ar gyfer Ysgol Gynradd y Santes Fair ym Mrymbo wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Yn hydref 2024, cytunodd bwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam i gynyddu’r nifer derbyn ar gyfer Ysgol Gynradd y Santes Fair ym Mrymbo, gyda’r bwriad o adeiladu ysgol newydd.

Nawr, yn dilyn proses dendro swyddogol, mae’r contractwr llwyddiannus, ???, yn ei le.

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru bellach wedi’i gymeradwyo, ynghyd â chyllid gan Sefydliad Addysg Blwyfol Wrecsam, felly rydym mewn sefyllfa i ddechrau’r gwaith, yn amodol ar gynllunio.

Bydd y gwaith adeiladu yn cymryd tua dwy flynedd o’r adeg y rhoddir caniatâd cynllunio.

Dywedodd Andrew Williams, pennaeth Ysgol Gynradd y Santes Fair, Brymbo: “Rydym yn falch iawn o weld cynnydd tuag at ddatblygu safle newydd i Ysgol y Santes Fair ym Mrymbo. Mae hwn yn gam pwysig tuag at ddarparu cyfleusterau modern o ansawdd uchel i’n disgyblion a’r gymuned ehangach. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Chyngor Wrecsam a’r contractwr penodedig wrth i’r cynlluniau symud ymlaen.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, aelod lleol dros Frymbo: “Mae penodi contractwr i ddylunio ac adeiladu ysgol newydd i Frymbo yn garreg filltir enfawr yn y prosiect hwn. Ar ôl gweithio gyda swyddogion y Cyngor ar hyn ers peth amser, rwy’n falch bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud. Er bod ffordd bell i fynd o hyd, rwy’n edrych ymlaen at weld plant lleol yn cael eu haddysgu mewn ysgol fodern sy’n addas at y diben.”

Dywedodd y Cynghorydd Gary Brown, aelod lleol dros Frymbo: “Mae cael contractwr yn ei le yn newyddion gwych gan fod Cyngor Wrecsam nawr yn gallu gweithio gyda nhw, yn ogystal â rhanddeiliaid lleol a’r gymuned, i ddylunio’r ysgol newydd. Bydd trigolion hefyd yn gallu rhannu eu barn gyda ni ar ôl i’r cais cynllunio gael ei gyflwyno.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Bicycle Gohirio gwaith ffordd ar gyfer cynllun teithio llesol
Erthygl nesaf Mayoral Christmas e-card Neges ar gyfer y Nadolig gan Faer Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 5, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall Mawrth 4, 2026
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

St Anne's
Busnes ac addysg

Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!

Chwefror 27, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â'r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â’r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam

Chwefror 23, 2026
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg

Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Chwefror 20, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English