Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol y Santes Fair, Brymbo – contractwr wedi’i gyhoeddi!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgol y Santes Fair, Brymbo – contractwr wedi’i gyhoeddi!
Busnes ac addysg

Ysgol y Santes Fair, Brymbo – contractwr wedi’i gyhoeddi!

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 11, 2025 1:31 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
St Mary's Brymbo
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn falch o allu cyhoeddi bod y prosiect i adeiladu safle newydd ar gyfer Ysgol Gynradd y Santes Fair ym Mrymbo wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Yn hydref 2024, cytunodd bwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam i gynyddu’r nifer derbyn ar gyfer Ysgol Gynradd y Santes Fair ym Mrymbo, gyda’r bwriad o adeiladu ysgol newydd.

Nawr, yn dilyn proses dendro swyddogol, mae’r contractwr llwyddiannus, ???, yn ei le.

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru bellach wedi’i gymeradwyo, ynghyd â chyllid gan Sefydliad Addysg Blwyfol Wrecsam, felly rydym mewn sefyllfa i ddechrau’r gwaith, yn amodol ar gynllunio.

Bydd y gwaith adeiladu yn cymryd tua dwy flynedd o’r adeg y rhoddir caniatâd cynllunio.

Dywedodd Andrew Williams, pennaeth Ysgol Gynradd y Santes Fair, Brymbo: “Rydym yn falch iawn o weld cynnydd tuag at ddatblygu safle newydd i Ysgol y Santes Fair ym Mrymbo. Mae hwn yn gam pwysig tuag at ddarparu cyfleusterau modern o ansawdd uchel i’n disgyblion a’r gymuned ehangach. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Chyngor Wrecsam a’r contractwr penodedig wrth i’r cynlluniau symud ymlaen.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, aelod lleol dros Frymbo: “Mae penodi contractwr i ddylunio ac adeiladu ysgol newydd i Frymbo yn garreg filltir enfawr yn y prosiect hwn. Ar ôl gweithio gyda swyddogion y Cyngor ar hyn ers peth amser, rwy’n falch bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud. Er bod ffordd bell i fynd o hyd, rwy’n edrych ymlaen at weld plant lleol yn cael eu haddysgu mewn ysgol fodern sy’n addas at y diben.”

Dywedodd y Cynghorydd Gary Brown, aelod lleol dros Frymbo: “Mae cael contractwr yn ei le yn newyddion gwych gan fod Cyngor Wrecsam nawr yn gallu gweithio gyda nhw, yn ogystal â rhanddeiliaid lleol a’r gymuned, i ddylunio’r ysgol newydd. Bydd trigolion hefyd yn gallu rhannu eu barn gyda ni ar ôl i’r cais cynllunio gael ei gyflwyno.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Bicycle Gohirio gwaith ffordd ar gyfer cynllun teithio llesol
Erthygl nesaf Mayoral Christmas e-card Neges ar gyfer y Nadolig gan Faer Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English