Yn ddiweddar, rydyn ni wedi gweld mwy o bobl yn gadael gwastraff y cartref wrth ymyl biniau sbwriel cyhoeddus yn Wrecsam. Tipio anghyfreithlon yw hyn yn y bôn.
Os ydych chi’n tipio’n anghyfreithlon, rydych chi mewn perygl o gael hysbysiad cosb benodedig, neu gallech chi hyd yn oed gael eich erlyn.
Dwedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd i Gyngor Wrecsam: “Efallai bod gadael bagiau o sbwriel a gwastraff arall y cartref wrth ymyl biniau sbwriel cyhoeddus yn ymddangos yn ddigon diniwed, ond mae’n anghyfreithlon, yn annymunol a gall ddenu fermin – gan greu problemau i bobl sy’n byw gerllaw.
“Peidiwch â chael eich temtio i adael eich gwastraff cartref wrth ymyl bin cyhoeddus – rhowch y gwastraff yn eich bin neu’ch cynwysyddion ailgylchu gartref os yw’n briodol, neu ewch ag o i un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mhlas Madoc, Brymbo neu Stad Ddiwydiannol Wrecsam.
“Os ydych chi’n talu rhywun i gludo eich gwastraff, gwnewch yn siŵr bob tro bod trwydded ganddyn nhw.
Bydd gan weithredwyr trwyddedig drwydded ‘cludwyr’ a gallwch wirio a oes ganddynt un drwy chwilio Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dylech hefyd wneud yn siŵr eu bod yn rhoi’r gwaith papur priodol i chi, sy’n gwarantu y byddant yn gwaredu eich sbwriel yn iawn.






