Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffocws ar weithgareddau llyfrgell y Waun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ffocws ar weithgareddau llyfrgell y Waun
Pobl a lleDigwyddiadauY cyngor

Ffocws ar weithgareddau llyfrgell y Waun

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 22, 2025 4:20 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Chirk library
RHANNU

Yma yn Wrecsam, mae gennym dimau gwasanaeth llyfrgell ymroddedig ar draws yr awdurdod sy’n gweithio’n galed i ddarparu’r profiadau llyfrgell o’r ansawdd gorau i’n cymunedau.

Cynnwys
  • Gwyl i ymwelwyr iau
  • Cefnogi’r gymuned
  • Brwdfrydedd creadigol a rennir

Yn ogystal â chynnig amrywiaeth eang o lyfrau, maen nhw’n ceisio gweithredu amserlen llawn gweithgareddau i bawb gymryd rhan ynddynt.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Heddiw, rydyn ni’n mynd i edrych ar yr hyn sydd yn yr arfaeth gan dîm llyfrgell y Waun i’w hymwelwyr.

Gwyl i ymwelwyr iau

Mae plant creadigol rhwng 4 ac 11 oed yn gallu dod i roi rhwydd hynt i’w dychymyg yn y Clwb Lego.

Bob dydd Mawrth rhwng 3pm a 4pm, mae plant yn gallu dod draw i greu pob math o bethau.  Maen nhw’n gallu dysgu sgiliau bywyd gwych fel meddwl creadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a datrys problemau trwy chwarae meddal llawn hwyl.

Mae rhieni a gofalwyr â babanod a phlant bach yn gallu dod â’u plant bach i Amser Stori ac Amser Rhigwm.

Cynhelir y grŵp bob dydd Iau rhwng 2.15 pm a 2.45 pm, ac mae’n sesiwn am ddim sy’n llawn straeon anhygoel a chwarae geiriau penigamp. Does dim angen archebu, dewch draw a mwynhau straeon hudolus.

Cefnogi’r gymuned

Mae preswylwyr 50 oed a hŷn yn gallu dod draw i’r sesiwn Galw Heibio gydag Asiant Cymunedol a gynhelir bob dydd Llun o 10am tan 12 hanner dydd.

Yma, mae ein hasiantau cymunedol yn gallu eich cynorthwyo i wneud dewisiadau gwybodus am eich anghenion presennol ac yn y dyfodol. Nod y sesiynau yw eich helpu i deimlo’n fwy annibynnol a diogel a bod pobl yn gofalu amdanoch chi.

Galwch heibio i gael sgwrs anffurfiol â Brigitte. Does dim angen cadw lle ac mae sesiynau galw heibio yn rhad ac am ddim.

Mae Grŵp y Dynion yn cwrdd bob dydd Llun rhwng 11.30am ac 1pm ac mae’n agored i bob dyn o unrhyw oedran i alw heibio i le diogel ac anfeirniadol er mwyn sgwrsio. Mae’r grŵp yn cynnal gweithgareddau, siaradwyr gwadd a lluniaeth am ddim.

Does dim angen archebu i gymryd rhan, felly dewch draw i ymuno.

Ar ail ddydd Llun y mis, 2pm – 4pm, mae llyfrgell y Waun yn cynnig Gwasanaeth Galw Heibio Awtistiaeth Integredig.

Mae’r sesiynau hyn yn gallu rhoi cyngor/cymorth i chi yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau arbenigol a allai helpu pobl naill ai ag awtistiaeth, neu’r rhai sy’n cefnogi oedolyn neu blentyn ag awtistiaeth.

Does dim angen archebu ar gyfer y sesiynau hyn ac mae croeso i ymwelwyr ddod draw ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn galw heibio.

Brwdfrydedd creadigol a rennir

Ar gyfer oedolion sydd â chariad at bopeth llenyddol, mae’r Grŵp Darllen Oedolion yn cwrdd ar ddydd Llun cyntaf y mis, 1pm – 2pm.

Yma, gallwch ymuno â phobl o’r un anian sy’n dwlu ar lyfrau i drafod y teitlau diweddaraf ac o bosibl wneud ffrindiau newydd sydd â diddordeb cyffredin yn y gair ysgrifenedig.

Fel arall, os ydych chi’n grefftwr geiriau brwd, mae’r Grŵp Ysgrifennu Creadigol i Oedolion yn eich croesawu ar ddydd Gwener cyntaf y mis, 10.30am – 11.30am.

Mae hyn yn gyfle gwych i rannu stori yr hoffech i eraill ei chlywed. Mae’n lle i ddod iddo os oes angen ysbrydoliaeth, adborth neu hyd yn oed paned o de arnoch. Mae aelodau’n gallu rhannu syniadau a chalonogi ei gilydd ar eu prosiectau llenyddol.

I gale rhagor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau a grybwyllir yma a mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau llyfrgelloedd. Neu gallwch ffonio llyfrgell y Waun ar 01691 772344 neu e-bostio lprc@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon yn Wrecsam Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon yn Wrecsam
Erthygl nesaf Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau Mae dwy gêm bêl-droed dros y Nadolig eleni…gwnewch yn siŵr eich bod chi’n parcio a theithio!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English