Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon yn Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 22, 2025 11:38 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon yn Wrecsam
RHANNU

Ymestynnwyd gorchmynion cau o 3 mis a osodwyd ar Mini Market Wrecsam, Stryd y Bont, Wrecsam a Corner Market Wrecsam, Ffordd Melin y Brenin, Wrecsam ym mis Medi am werthu tybaco a vêps anghyfreithlon gan lysoedd Ynadon Wrecsam ar 9 Rhagfyr.

Gwnaed y penderfyniad hwn gan y llysoedd ar ôl iddyn nhw gael tystiolaeth o gyflenwi cynnyrch anghyfreithlon parhaus mewn cysylltiad â’r safle oedd wedi cau. Bydd y ddau safle yn aros ar gau am dri mis arall. Gwnaed y penderfyniadau er gwaethaf amddiffyniad cyfreithiol egnïol ar ran Corner Market Wrecsam a chyfanswm y costau a godwyd oedd £2852.00.

Dilynwyd y weithred hon wythnos yn ddiweddarach pan ddirymodd Is-bwyllgor Trwyddedu’r awdurdod lleol y drwydded alcohol ar gyfer Corner Market Wrecsam yn dilyn cais am adolygiad o’r drwydded gan Safonau Masnach. Ar yr un diwrnod, aeth Safonau Masnach â chais am orchymyn cau arall i’r llys Ynadon, y tro hwn yn erbyn American Candy and Vapes, Ffordd Melin y Brenin, Wrecsam. Gorchmynnodd yr Ynadon gau’r busnes a bydd y siop hon nawr hefyd ar gau, am 3 mis i ddechrau. Dyfarnwyd costau llawn gan y llys i’r Cyngor, oedd ynwerth cyfanswm o £2431.56.

Y camau gweithredu diweddaraf hyn yw’r 14eg gorchymyn cau i’w roi i Wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor. Mae’r safleoedd i gyd wedi cael eu cau am werthu fêps anghyfreithlon, tybaco anghyfreithlon neu’r ddau.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Ddiogelu’r Cyhoedd, “mae’n bwysig iawn bod y Cyngor yn cymryd camau i ddiogelu ein cymuned. Mae fêps a thybaco anghyfreithlon yn bygwth iechyd ein plant ac yn dod â throsedd i’n cymunedau. Mae gorchmynion cau wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o darfu ar gyflenwad anghyfreithlon a chynyddu costau i’r busnesau sy’n cymryd rhan mewn gwerthu cynnyrch anghyfreithlon. Mae rhoi estyniadau i orchmynion cau presennol yn caniatáu i’r Cyngor roi pwysau pellach ar y masnachu anghyfreithlon hyn a bydd y Cyngor yn defnyddio pob modd sydd ar gael i fynd i’r afael â’r broblem hon.”

Mae dros 5000 o bobl yng Nghymru yn marw bob blwyddyn o glefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu sy’n lladd 1 o bob 2 o’r holl ddefnyddwyr hirdymor. Mae mynediad hawdd at dybaco rhad yn cynyddu’r siawns y bydd plant yn datblygu caethiwed gydol oes i’r cynnyrch hynod gaethiwus hwn. Mae fêps anghyfreithlon yn cynnwys llawer mwy o nicotin na’r lefelau a ganiateir ac yn peri risg debyg o gaethiwed gydol oes. Mae fêps tafladwy yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd gyda miliynau’n cael eu taflu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae pob fêp sy’n cael ei daflu yn cynnwys plastig, cydrannau electronig, batri a hylif gweddilliol. Nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hailgylchu ac mae’r batris yn achosi tanau mewn cyfleusterau ailgylchu gwastraff yn rheolaidd.”

Rydym yn annog unrhyw un sy’n poeni am eu cymuned ac iechyd eu plant i rannu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt sy’n ymwneud â thybaco neu fêps anghyfreithlon.

TAGGED:vapes
Rhannu
Erthygl flaenorol JC Edwards Wall and Public Garden site Wal a Gardd Gyhoeddus Newydd JC Edwards yn agor yn swyddogol yn Nhrefor
Erthygl nesaf Chirk library Ffocws ar weithgareddau llyfrgell y Waun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English