Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2026/01/16 at 12:12 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
RHANNU

Mae enw da Wrecsam fel dinas greadigol sy’n tyfu wedi cael ei gydnabod unwaith eto, gyda Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam yn derbyn canmoliaeth yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam yn ddiweddar, gan ddathlu’r ffordd y mae’r prosiect wedi dod â lliw, celfyddyd a straeon lleol newydd i galon canol y ddinas.

Rhoddwyd canmoliaeth i’r llwybr, sydd wedi cyflwyno cyfres o weithiau celf a murluniau beiddgar ar draws canol y ddinas, am y ffordd y mae’n hyrwyddo hunaniaeth ddiwylliannol Wrecsam – o’i farchnadoedd hanesyddol a’i threftadaeth ddiwydiannol i bêl-droed, cerddoriaeth, y celfyddydau, pwysigrwydd chwarae, y Gymraeg ac amrywiaeth ddiwylliannol esblygol y ddinas.

Wedi’i gydlynu gan yr artist o Wrecsam, Liam Stokes-Massey, gyda chefnogaeth Wrecsam2029, ac wedi’i ariannu drwy gyfran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r prosiect wedi dod â phobl greadigol, busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd i ail-ddychmygu strydoedd a mannau cyfarwydd. Mae Cam 2 y llwybr ar y gweill ar hyn o bryd, gyda mwy o weithiau celf a lleoliadau yn cael eu datblygu.

Art Trail Mural of Big June
Big June, Sophia Leadill
Art Trail Mural of Footballer Paul Mullin
Paul Mullin, Liam Stokes-Massey
Colourful Art Trail Mural
Patchwork of Play, Rhi Moxon

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’r Llwybr Celf Gyhoeddus wedi helpu pobl i weld Wrecsam mewn goleuni newydd. Mae’r gweithiau celf hyn nid yn unig yn goleuo waliau: maen nhw’n adrodd ein straeon – am ymdrech, angerdd, creadigrwydd a chymuned.”

“Yr hyn rydw i’n ei werthfawrogi am y prosiect hwn yw sut mae’n rhoi artistiaid lleol a lleisiau lleol ar flaen y gad. Mae’r ganmoliaeth gan Gymdeithas Ddinesig Wrecsam yn gydnabyddiaeth o’r gwaith sydd wedi mynd i bob darn – o ddewis y lleoliadau cywir i adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.”

“Mae’r llwybr yn ymwneud â bod yn falch o le. Mae’n dangos sut y gall celf wneud teithiau bob dydd yn fwy pleserus, sbarduno sgyrsiau ar y stryd a rhoi ymdeimlad cryfach o gysylltiad i drigolion ac ymwelwyr â’n dinas.”

Art Trail Mural of Art Treasures Exhibition 1876
Art Treasures Exhibition 1876, Rachel West
Art Trail Mural of Playful Characters in geometric art style
Playful Perspectives, Liam
Art Trail mural of Wrexham AFC Manager Phil Parkinson
The Boss, Liam Stokes-Massey

Mae’r Llwybr Celf Gyhoeddus yn rhan allweddol o uchelgais Wrecsam i sicrhau teitl Dinas Diwylliant y DU 2029, gan arddangos cryfder ac amrywiaeth sîn greadigol y ddinas a’r partneriaethau sy’n ei gyrru ymlaen.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Cais Dinas Diwylliant, Amanda Evans: “Mae Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam yn enghraifft wych o’r hyn y mae ein cais Dinas Diwylliant yn ei olygu – defnyddio creadigrwydd i ddod â phobl at ei gilydd, rhannu ein straeon a meithrin hyder yn pwy ydyn ni a ble rydyn ni’n mynd.”

“Mae pob gwaith celf yn darlunio ochr wahanol i Wrecsam, o’n gwreiddiau diwydiannol i’n cariad at bêl-droed a cherddoriaeth, a’r diwylliannau a’r ieithoedd niferus sydd bellach yn galw’r lle hwn yn gartref.”

“Mae’r ganmoliaeth gan Gymdeithas Ddinesig Wrecsam yn hwb gwirioneddol i bawb sydd wedi bod yn rhan. Mae’n dangos pan fyddwn ni’n gweithio ar y cyd, rhwng artistiaid, cymunedau, busnesau a llywodraeth leol, y gallwn ni greu rhywbeth sy’n teimlo’n ddilys ac yn arbennig, ac wir yn crynhoi ‘Wrecsam’.”

Mae’r ganmoliaeth gan Gymdeithas Ddinesig Wrecsam yn tynnu sylw at effaith y Llwybr Celf Gyhoeddus fel prosiect creadigol, cydweithredol sy’n arddangos talent leol, yn cryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn ychwanegu lliw a chymeriad i strydoedd Wrecsam.

I gael rhagor o wybodaeth am Lwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam, Wrecsam2029 a’u cais ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2029, ewch i’w gwefan swyddogol.

Rhannu
Erthygl flaenorol off-gas Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 17, 2026
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

off-gas
Pobl a lle

Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…

Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Pobl a lle

Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 15, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel

Ionawr 14, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English