Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Diweddarwyd diwethaf: 2026/01/15 at 3:02 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Adult Community Learners
RHANNU

Mae partneriaeth sy’n darparu cyfleoedd dysgu oedolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint wedi cael ei chanmol gan arolygwyr addysg am helpu pobl i feithrin hyder, sgiliau a chyfleoedd bywyd.

Mae adroddiad newydd gan Estyn ar bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd-ddwyrain Cymru yn tynnu sylw at ei harweinyddiaeth gref a’i haddysgu o ansawdd uchel, gan ddweud bod dysgwyr yn gwneud cynnydd da, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn mwynhau eu dysgu.

Mae’r bartneriaeth yn cael ei harwain gan awdurdodau lleol Wrecsam a Sir y Fflint ac fe’i hariennir gan Medr, corff hyd braich Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ariannu a goruchwylio addysg ôl-16 a dysgu cymunedol.

Mae’n darparu amrywiaeth o gyrsiau ar draws y ddwy sir, gan weithio gyda Groundwork Gogledd Cymru, Addysg Oedolion Cymru a Choleg Cambria yn yr hyn y mae adroddiad Estyn yn ei ddisgrifio fel “rhwydwaith ymroddedig”.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at gryfderau niferus y bartneriaeth, yn amrywio o’r ymrwymiad i les a thwf personol dysgwyr, i ansawdd yr addysgu ac ehangder dysgu i deuluoedd ac unigolion.

Mae’r gwersi yn cael eu cyflwyno mewn amrywiaeth o leoliadau fel llyfrgelloedd lleol, canolfannau cymunedol ac ysgolion, ac maent yn cwmpasu popeth o lythrennedd, rhifedd a sgiliau TG, i gyrsiau gwnïo, coginio a lles.

Un dysgwr sydd wedi elwa o gyrsiau a gynigir drwy’r bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yw Kim, a ddechreuodd fynychu dair blynedd yn ôl yn ei hysgol a’i chanolfan gymunedol leol yn Wrecsam. Mae hi wedi cymryd rhan mewn cyrsiau fel Creu yn y Coed, Coginio yn y Gegin a Chrefftio, ynghyd â’i phlant.

Dywed Kim fod y sesiynau wedi dod yn rhan bwysig o’i bywyd, gan ei helpu i wneud ffrindiau a chryfhau cysylltiadau teuluol, wrth wella ei lles ar yr un pryd.

Dywedodd:  “Mae’n sicr yn eich atal chi rhag teimlo’n ynysig. Mae’r cwrs fel glud sy’n glynu’r gymuned at ei gilydd – wedi’i leoli yn y ganolfan gymunedol a’r ysgol.

“Mae’n eich cyfoethogi yn gymdeithasol. Rydych chi’n ennill sgiliau newydd, yn cael bod yn greadigol, yn gweld pethau sy’n eich ysbrydoli ac yn coginio pethau.”

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Estyn yn cydnabod cryfder ein partneriaeth i sicrhau bod gan bob oedolyn sy’n dysgu ar draws Sir y Fflint a Wrecsam fynediad at gyfleoedd dysgu eithriadol, gan gefnogi nid yn unig eu datblygiad sgiliau ond hefyd yn gwella eu cyfleoedd cyflogaeth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg yn Wrecsam: “Mae’r bartneriaeth wedi canolbwyntio ar sicrhau bod ein model comisiynu unigryw yng Nghymru yn cefnogi anghenion dysgwyr a’r economi ehangach ac rydyn ni wrth ein bodd bod hyn wedi’i gydnabod yn yr adroddiad.”

Ychwanegodd Jo Tincello, Rheolwr Contractau’r Bartneriaeth: “Mae’r adroddiad yn dyst i ethos ac ymrwymiad cyffredin pawb sy’n cymryd rhan i wneud yn siŵr bod dysgwyr, sydd efallai heb gymryd rhan mewn dysgu ers peth amser, yn gallu dychwelyd a rhoi cynnig ar bethau newydd.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid gan gynnwys Coleg Cambria ac Addysg Oedolion Cymru i gefnogi dysgwyr i feithrin eu hyder a’u gwydnwch, gan ddarparu cymorth a all newid bywydau pobl.”

Os ydych yn byw yn Sir y Fflint a Wrecsam ac yn 19+ oed, gallwch ddod o hyd i ba gyrsiau sydd ar gael drwy Dysgu Oedolion yn y Gymuned naill ai drwy e-bostio acl@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 07584 335409.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Erthygl nesaf off-gas Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Pobl a lle

Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol

Mawrth 13, 2026
Wrexham v Swansea
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?

Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle

Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026

Mawrth 11, 2026
Young Carers Action Day 2026
Pobl a lle

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026

Mawrth 10, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English