Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr

Diweddarwyd diwethaf: 2026/01/23 at 9:14 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Cefn Mawr library
RHANNU

Ar draws yr awdurdod, mae gennym dimau ymroddedig yn ein gwasanaethau llyfrgell sy’n gweithio’n ddi-baid i gyflwyno amserlen o weithgareddau yn eu cymunedau lleol i ddarparu ar gyfer pawb.

Cynnwys
Dewch i greu crefftauGwasanaethau i’r gymunedDigwyddiadau i ddod â ni at ein gilydd

Yn ogystal â silffoedd llawn llyfrau i weddu i bob chwaeth, mae ein llyfrgelloedd lleol yn darparu mwy na deunyddiau darllen. Heddiw, byddwn yn edrych ar yr hyn a fydd yn eich disgwyl ar eich ymweliad nesaf â llyfrgell Cefn Mawr.

Wedi’i leoli ar Lôn Plas Kynaston, mae gan ymwelwyr amrywiaeth o ddigwyddiadau i ddewis ohonynt.

Dewch i greu crefftau

Mae digon i’w wneud i’r artistiaid yn ein plith yma yn llyfrgell Cefn Mawr. Bob dydd Llun rhwng 1 a 4pm, maent yn cynnal y grŵp Gwau, Crosio a Chrefftau.

Mae’r grŵp wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf a chrefft. Mae hwn yn ofod ardderchog i’r rheini sy’n hoff o wau, gwnïo, brodio, gwneud cardiau, crosio, macramé, i enwi ond ychydig.

Gall mynychwyr ymuno a dod â beth bynnag rydych yn gweithio arno ar hyn o bryd. Fel arall, gallwch alw heibio a chael sgwrs gyda chyd-grefftwyr.

Nid oes cost am fynychu a darperir lluniaeth, ond dewch â’ch cwpan eich hun.

Ar gyfer yr ymwelwyr iau â’r llyfrgell, mae Clwb Lego bob dydd Mercher rhwng 3.15 a 4pm.

Mae’r sesiynau hyn yn helpu plant i ddysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn eu dysgu sut i weithio a rhyngweithio ag eraill. Trwy ffordd o ddysgu sy’n llawn hwyl, gall plant ddatblygu sgiliau meddwl creadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a datrys problemau.

Mae’r sesiynau yn addas ar gyfer plant 4 oed a hŷn ac nid oes cost am fynychu. Nid oes angen cadw lle, dim ond galw heibio a chymryd rhan.

Gwasanaethau i’r gymuned

Mae sesiynau yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn llyfrgell Cefn Mawr a all helpu’r gymuned leol yn ei chyfanrwydd.

Ar yr ail a’r pedwerydd dydd Llun o bob mis, gall pobl fynychu sesiynau galw heibio Cyngor ar Bopeth rhwng 1.30 a 4.30pm.

Yma, gall ymwelwyr gael cyngor annibynnol, diduedd a chyfrinachol am ddim ar unrhyw bwnc gan gynnwys cyflogaeth, budd-daliadau a dyled. Maent yn eich helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen, beth bynnag yw’r broblem, felly galwch heibio a sgwrsio ag un o’u harbenigwyr.

Ar y trydydd dydd Llun o bob mis rhwng 2 a 4pm, cynhelir sesiwn galw heibio gyda’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.

Os ydych yn byw gydag awtistiaeth, neu os ydych yn cefnogi oedolyn neu blentyn awtistig, gallwch ddod draw i’r sesiynau i gael cyngor a chymorth a chael gwybod am wasanaethau arbenigol a allai eich helpu.

Mae sesiynau am ddim ac mae croeso i chi eu mynychu ar unrhyw bwynt heb fod angen cadw lle ymlaen llaw.

Digwyddiadau i ddod â ni at ein gilydd

Ar ddydd Iau cyntaf y mis, mae grŵp Cefn yn Cofio i’r rhai sydd eisiau sgwrsio am atgofion y gorffennol neu ddim ond eistedd a gwrando ar rai straeon o’r dyddiau a fu.

P’un a ydych yn lleol neu’n dod o rywle pellach i ffwrdd, mae croeso i chi ymuno â’r grŵp wrth iddynt gwrdd rhwng 3 a 4pm. Mae croeso i chi ddod ag unrhyw eitemau neu luniau yr hoffech eu rhannu gyda’r grŵp.

Mae’r digwyddiad am ddim hwn, sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng llyfrgell Cefn Mawr ac Amgueddfa Cefn Mawr, yn agored i bawb gyda lluniaeth ar gael.

Os ydych yn hoffi darllen a sgwrsio am lyfrau, mae yna grŵp perffaith i chi. Ar ddydd Iau olaf pob mis, rhwng 2 a 3pm, mae’r Grŵp Darllen i Oedolion yn cwrdd i ddod â darllenwyr brwd o’r un anian at ei gilydd.

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim sy’n agored i bawb a darperir lluniaeth ysgafn.

I gael rhagor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau a grybwyllir yma a mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau llyfrgelloedd. Fel arall, gallwch ffonio llyfrgell Cefn Mawr ar 01978 820938 neu e-bostio cefnmawr.library@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Pupils at Ysgol Llan y Pwll Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
DigwyddiadauPobl a lle

Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol

Ionawr 20, 2026
Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 19, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English