Mae’r cyffro’n cynyddu wrth i Glwb Pêl-droed Wrecsam anelu at 5ed rownd Cwpan FA Lloegr ar 7 Mawrth.
Mae Wrecsam yn wynebu tîm yr Uwch Gynghrair, Chelsea, a bydd cefnogwyr o bob cwr o’r wlad yn ymweld â chanol dinas Wrecsam.
Os ydych chi’n mynd i gêm Wrecsam yfory, cofiwch fod gwasanaeth parcio a theithio Ffordd Rhuthun yn cynnig lle parcio rhad, cyfreithlon a chyfleus (a dim perygl o gael tocyn parcio!).
Wrecsam v Chelsea | Dydd Sadwrn, 7 Mawrth | cic gyntaf am 5.45pm
Cyn y gêm
Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU.
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 3.45pm; bws olaf 5.05pm.
Ar ôl y gêm
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 7.45pm o Ffordd yr Wyddgrug; bws olaf 9.05pm.
Mae pob bws ar ôl y gêm yn rhedeg o Ffordd yr Wyddgrug.
Dim ond £1 am daith ddwyffordd i oedolion (50c i blant)
Maes parcio’n cau am 9.45pm.
Nod y gwasanaeth parcio a theithio ar Ffordd Rhuthun yw atal parcio anghyfreithlon, peryglus ac anystyriol – sy’n well i gefnogwyr sy’n mynd i’r gêm ac i drigolion sy’n byw o fewn pellter cerdded i’r Cae Ras.

