Mae Cyngor Wrecsam yn cynyddu ei ymrwymiad i ystadau glanach, gwyrddach mewn cyflwr gwell gyda chyfres o welliannau sydd wedi’u cynllunio i wella cymdogaethau lleol a chefnogi lles cymunedol.
Mae gan Adran Dai Cyngor Wrecsam chwe Swyddfa Ystâd o amgylch y Fwrdeistref, sy’n canolbwyntio ar reoli tenantiaethau a rheoli ystadau.
Mae’r Adran Dai yn aml yn gweithio ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd i asesu meysydd i’w gwella. Bob blwyddyn, mae’r swyddfa ystâd yn cynnal sawl ‘diwrnod gweithredu amgylcheddol’ ar draws y Fwrdeistref. Nod y digwyddiadau hyn yw tacluso llwybrau sy’n eiddo i dai, mannau cymunedol a chynnig cyfle i ddeiliaid contract (tenantiaid) ddefnyddio sgip er mwyn cael gwared ar eitemau diangen.
Mae ein Timau Ystâd yn treulio amser ar yr ystadau, gan asesu’n barhaus yr ardaloedd maen nhw’n eu gweld yn ystod gwahanol fathau o ymweliadau ac arolygiadau ar droed gydag Aelodau Lleol.
Mae’r Swyddfeydd Ystâd wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o wirio eu hardaloedd ac wedi bod yn cydweithio â’n cydweithwyr yn Adran yr Amgylchedd i gadw ein cytundeb ar gyfer torri gwair a chynnal a chadw cyffredinol yn gyfredol.
Fel y nodir yn y Cynllun Busnes Tai, blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yw gwella ansawdd amgylcheddau ystadau.
I wneud hynny, mae cynnig i recriwtio 4 gweithredwr cynnal a chadw ystadau ychwanegol i fod yn rhagweithiol yn y gwaith o reoli ystadau. Nod y rolau hyn fydd gwella ansawdd amgylcheddau ystadau, cyfrannu at strydoedd gwyrddach, cynnal arolygiadau ar ystadau, a chynnal a chadw ardaloedd cymunedol.
Bydd y swyddi hyn yn cael eu hysbysebu ar dudalen swyddi’r Cyngor
Bydd y gwelliannau hyn yn cydymffurfio â blaenoriaethau’r Cyngor yn ogystal ag alinio ag ymrwymiadau hinsawdd y Cyngor.
Mae Cyngor Wrecsam yn cydnabod pwysigrwydd amgylchedd glân, deniadol a chynaliadwy ar les cymunedau.
Er mwyn helpu i lywio gwelliannau yn y dyfodol, mae Arolwg Ystadau Tai wedi’i lansio ar gyfer Deiliaid Contract y Cyngor (tenantiaid y Cyngor). Mae hwn yn rhoi cyfle iddyn nhw rannu eu barn ac amlygu’r meysydd sydd bwysicaf iddyn nhw, gan sicrhau bod y gwaith sydd ar ddod yn cael ei gyflawni lle mae ei angen. Mae’r arolwg ar agor tan ddiwedd mis Mawrth a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth lywio blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau i ystadau.
Er mwyn helpu hefyd i gynnal cymdogaethau taclus a chroesawgar, mae’r Adran Dai yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru a Thîm Gorfodi’r Cyngor i fynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar yr ystadau.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros Dai a Newid Hinsawdd, “mai recriwtio pedwar gweithredwr ystadau ychwanegol yw dechrau ein hymrwymiad i wella golwg a glendid ein hystadau. Ystadau glanach, gwyrddach a mwy diogel yw ein blaenoriaethau, ac rydyn ni’n croesawu adborth gan ein tenantiaid ar sut y gallwn ni wella ardaloedd lleol.”

