Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > 300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
DigwyddiadauPobl a lle

300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 30, 2026 11:54 am
Rhannu
Darllen 3 funud
300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
RHANNU

Yn agor yn llawn yn ddiweddarach eleni, bydd Stori Brymbo, atyniad ymwelwyr dan arweiniad y gymuned, yn dod yn gyrchfan hanfodol yng ngogledd Cymru. 

Bydd Stori Brymbo yn cadw ac yn adrodd hanes naturiol a diwydiannol cyfoethog Wrecsam drwy adrodd straeon, adfywio a phrosiectau dan arweiniad y gymuned lle mae’r gorffennol yn cwrdd â’r dyfodol.

Yn seiliedig ar safle hen Waith Dur Brymbo, bydd y safle yn cynnwys 3 adeilad sy’n adrodd straeon diwydiant yma drwy lensys Pobl, Haearn a Dur, Siop Goffi, man arddangos celf ac ardaloedd awyr agored.

Mae’r safle hefyd yn gartref i goedwig ffosil unigryw sydd wedi denu diddordeb rhyngwladol, gyda ffosilau yn cael eu darganfod o 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y tir yr ydym yn ei adnabod fel Wrecsam wedi’i leoli rhywle ger y cyhydedd! Y Goedwig Ffosil yw’r cloddiad byw cyntaf yn y byd, dan arweiniad y gymuned sy’n cynnwys gwirfoddolwyr cymunedol a myfyrwyr o 13 o Brifysgolion.

Ymwelodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo, Nicola Eaton Sawford, a’r arweinydd cyfathrebu, Amanda Goodwin, â Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam yn ddiweddar i ychwanegu’r elfennau terfynol at arddangosfa am Stori Brymbo.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwrthrychau o’r goedwig ffosil yn ogystal â chelf a chrefft fel canhwyllau cwyr gwenyn wedi’u gwneud â chwyr o’r cychod gwenyn ar y safle a chrochenwaith wedi’i wneud o glai o’r safle.

Mae Canolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam wedi’i lleoli ar Stryt Caer ac ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn: 9.30am – 4.30pm a gall ddarparu gwybodaeth i’ch helpu i archwilio’r ardal leol yn ogystal â chynnig amrywiaeth eang o fwyd a diod lleol, crefftau, rhoddion a nwyddau o Gymru/ Wrecsam.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Fusnes, Economi a Thwristiaeth, y Cynghorydd Nigel Williams, “Bydd Stori Brymbo yn ased gwych arall i Wrecsam pan fydd yn agor yn llawn yn ddiweddarach eleni. “Tan hynny gallwch gael syniad o’r hyn fydd ar gael drwy ymweld â’r VIC yn Wrecsam ar Stryd Caer.”

300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
300 miliwn o flynyddoedd o hanes Wrecsam mewn arddangosfa yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr
Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch o hyd i'ch gyrfa nesaf gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf... Dewch o hyd i’ch gyrfa nesaf gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Erthygl nesaf Tourism Gwasanaeth gofal dydd gwell yn rhoi bywyd newydd i ganolfan adnoddau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
Elevate Conference
Digwyddiadau

Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd

Medi 30, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English