Mae Siarter Diogelwch Nos i Fenywod Gogledd Cymru (NWWNSC) yn fenter sydd wedi’i chynllunio i wella diogelwch pob menyw yn economi’r nos. Mae wedi’i anelu’n benodol at gyflogwyr sydd â gweithlu a chwsmeriaid benywaidd, sydd yn y lleoliad gyda’r nos, yn y nos neu’n gynnar yn y bore.
Mae’r Siarter yn darparu pecyn cymorth ymarferol ac yn nodi chwe cham syml y gall lleoliadau eu cymryd i gryfhau diogelwch menywod, gan gynnwys penodi Hyrwyddwr Diogelwch, cefnogi hyfforddiant staff, gwella llwybrau adrodd a gwella dyluniad lleoliadau diogel.
Trwy fod yn llofnodwr, bydd lleoliadau yn helpu i arwain y ffordd, gan osod esiampl gref yn Wrecsam a chwarae rôl allweddol wrth i’r Siarter ehangu ar draws y rhanbarth ehangach, gan gefnogi ymagwedd gadarnhaol, gyson at ddiogelwch menywod ledled Gogledd Cymru.
Mae’r siarter wedi’i datblygu gyda mewnbwn gan ystod o randdeiliaid ac arbenigwyr yn eu maes. Hon fydd y siarter gyntaf o’i bath yng Nghymru.
Bydd y siarter yn cael ei lansio ar ddydd Mawrth 21 Ebrill 1:30pm – 3:30pm yn Nhŷ Pawb.
Croeso cynnes i’r holl drwyddedwyr a staff bar.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol: “Rwy’n falch o weld y bydd y fenter bwysig hon yn dechrau yn Wrecsam cyn cael ei chyflwyno ar draws Gogledd Cymru. “Bydd yn cefnogi lleoliadau economi’r nos i greu lleoedd mwy diogel a chroesawgar i fenywod sy’n gweithio, neu’n ymweld â’ch safle”.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Andy Dunbobbin, “Mae Siarter Diogelwch Nos Menywod Gogledd Cymru yn ymwneud â chymryd camau ymarferol a gweladwy i sicrhau bod menywod yn teimlo’n fwy diogel o amgylch ein heconomi nos. “Drwy ymuno, mae lleoliadau’n dangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad i greu amgylcheddau lle mae menywod yn cael eu parchu, eu cefnogi a’u hamddiffyn. “Mae dechrau yn Wrecsam yn rhoi sylfaen gref inni i adeiladu dull cyson o ddiogelwch menywod ledled Gogledd Cymru – rhywbeth rwy’n ei gefnogi’n llwyr fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer y rhanbarth.”



