Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dod â chenedlaethau at ei gilydd: Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau 2026
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Dod â chenedlaethau at ei gilydd: Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau 2026
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Dod â chenedlaethau at ei gilydd: Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau 2026

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 29, 2026 10:40 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Dod â chenedlaethau at ei gilydd: Wythnos Fyd-eang Pontio'r Cenedlaethau 2026
RHANNU

Mae Wrecsam wedi bod yn dathlu Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau 2026 gydag amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal ledled y fwrdeistref rhwng 24 a 30 Ebrill.

Mae Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau yn ymgyrch ryngwladol sy’n taflu goleuni ar fanteision dod â chenedlaethau at ei gilydd, gan annog cymunedau i ddathlu cysylltiad, dealltwriaeth a phrofiadau a rennir ar draws pob oedran.

Eleni, mae rhaglen Wrecsam yn cynnwys amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n adlewyrchu cryfder gwaith pontio’r cenedlaethau sydd eisoes yn digwydd yn lleol.

Mae’r gweithgareddau a gynlluniwyd drwy gydol yr wythnos yn cynnwys sesiynau creadigol, gweithgareddau lles, dysgu treftadaethol, ymgysylltu â phobl ifanc a phrosiectau cymunedol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae sesiwn chwarae am ddim i blant dan 5 oed yng Nghastell y Waun, sesiwn les Groundwork Gogledd Cymru yng Nghlwb Pêl-droed Pen-y-Cae, a sesiwn gelf ‘Rhannu Sgil’ yn Erddig.

Bydd ‘Growing pots of kindness’, a gynhelir gan CIC – Done Together, hefyd yn digwydd ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun yng Ngwersyllt, lle gall cyfranogwyr addurno cerdyn a phlannu hedyn i’w roi i rywun yn y gymuned.

Mae gweithgareddau eraill yn ystod yr wythnos yn cynnwys disgo distaw, gan ddod â gofalwyr ifanc a chenedlaethau hŷn ynghyd trwy gerddoriaeth, sesiynau clwb ieuenctid sy’n pontio’r cenedlaethau, gweithgareddau Bowlio a Boccia sy’n cynnwys disgyblion ysgol o Ysgol Bro Alun.

Bydd y Comisiynydd Pobl Hŷn hefyd yn ymweld â sesiynau yng Nghanolfan Achub y Glowyr lle gall cyfranogwyr ddysgu mwy am dreftadaeth mwyngloddio Wrecsam trwy deithiau dan arweiniad cyn-achubwyr mwyngloddiau.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys gweithgareddau crefft tecstilau yn Erddig a chyfleoedd dysgu yng Ngholeg Cambria, sy’n cwmpasu pynciau fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Saesneg a Mathemateg a Dysgu Cymraeg.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn ôl yn Wrecsam i weld rhai o’r prosiectau gwych sydd ar y gweill sy’n dod â gwahanol genedlaethau ynghyd.”

“Mae mannau a gweithgareddau rhyng-genhedlaeth fel y rhain yn creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach, yn ogystal â mwy o ymddiriedaeth a dealltwriaeth rhwng cenedlaethau, ac maent yn rhan allweddol o gymunedau sy’n gyfeillgar i oedran.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Y Groves: Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria yn dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer safle ysgol ddiangen Y Groves: Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria yn dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer safle ysgol ddiangen
Erthygl nesaf Lansio Siarter Diogelwch Menywod yn y Nos Gogledd Cymru yn Nhŷ Pawb Lansio Siarter Diogelwch Menywod yn y Nos Gogledd Cymru yn Nhŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English