Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Groves: Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria yn dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer safle ysgol ddiangen
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Y Groves: Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria yn dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer safle ysgol ddiangen
ArallBusnes ac addysg

Y Groves: Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria yn dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer safle ysgol ddiangen

Diweddarwyd diwethaf: Mai 1, 2026 3:32 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Y Groves: Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria yn dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer safle ysgol ddiangen
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria wedi cytuno ar ffordd i symud ymlaen ar gyfer hen safle Ysgol Uwchradd Groves ger canol y ddinas.

Mae’r coleg, sy’n gwasanaethu miloedd o fyfyrwyr ar draws y rhanbarth, wedi mynegi diddordeb mewn caffael y safle i ehangu ei ddarpariaeth addysg yn Wrecsam.

Caeodd Ysgol Uwchradd Groves ei drysau yn 2006. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio wedyn gan staff y cyngor am ychydig flynyddoedd, ond mae wedi bod yn wag ers 2012.

Dim ond at ddibenion addysgol y gellir defnyddio’r safle sy’n eiddo i’r Cyngor oherwydd cyfamodau cyfreithiol sy’n dyddio’n ôl sawl degawd, a rhestrwyd yr adeilad gan Lywodraeth Cymru yn 2016 er mwyn ei atal rhag cael ei ddymchwel – gan roi terfyn ar ddyheadau’r Cyngor i adeiladu ysgol fodern newydd ar y safle.

Yn 2019, mynegodd cwmni gofal iechyd ddiddordeb mewn datblygu cyfleuster hyfforddi meddygol ar safle’r Groves. Cafwyd trafodaethau manwl, ond methodd y cynigion yn y pen draw.

Ar yr un pryd, bu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn archwilio opsiynau i ddatblygu cyfleusterau hyfforddi ar hen gaeau chwarae’r ysgol, ond nid oedd y safle yn ddigon mawr.

Yn 2023, cyrhaeddodd safle’r Groves restr fer fel lleoliad posibl ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol newydd i Gymru, ond rhoddwyd gorau i’r prosiect yn ddiweddarach gan Lywodraeth Cymru oherwydd diffyg cyllid.

Mae trafodaethau yn parhau, ac mae adroddiad bellach yn debygol o fynd gerbron Bwrdd Gweithredol y cyngor yr haf hwn, yn gofyn am ganiatâd i gytuno ar delerau i drosglwyddo’r safle i’r coleg.

Bywyd newydd

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym yn gweithio’n agos gyda Choleg Cambria i archwilio’r manylion, ond rydyn ni’n falch bod gennym ateb o’r diwedd ar gyfer y Groves.

“Mae’n costio llawer o arian i gadw’r adeilad gwag yn ddiogel ac mewn sefyllfa i wrthsefyll y tywydd, felly mae trosglwyddo’r safle i’r coleg yn gwneud llawer o synnwyr ariannol – a bydd hefyd yn rhoi bywyd newydd iddo.

“Rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino i geisio dod o hyd i bwrpas newydd ar gyfer y safle hwn, ac nid yw wedi bod yn hawdd – mae’r cyfamod a’r statws rhestredig wedi ei gwneud hi’n anodd iawn – ond rydyn ni wedi dal ati ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Choleg Cambria.

“Ein nod yw mynd â’r adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol ym mis Mehefin, gan fod hyn yn rhywbeth fydd â goblygiadau cyffrous iawn i addysg coleg yn Wrecsam.”

Dywedodd Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria: “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i fuddsoddi yn safle Groves.

“Bydd y gallu i ni wella ein cynnig addysg alwedigaethol gyda darpariaeth o safon fyd-eang a chyfleusterau o’r radd flaenaf yn Wrecsam yn diwallu anghenion addysg a hyfforddiant dysgwyr a chyflogwyr ymhellach.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Food waste Mae’n Ddiwrnod Atal Gwastraff Bwyd ar Ebrill 29 – dysgwch sut y gallwch chi gymryd rhan…
Erthygl nesaf Dod â chenedlaethau at ei gilydd: Wythnos Fyd-eang Pontio'r Cenedlaethau 2026 Dod â chenedlaethau at ei gilydd: Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau 2026

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English