Bydd Wrecsam unwaith eto yn dathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ym mis Awst.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghanol dinas Wrecsam ar 5 Awst, yn Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf (cae Neuadd y Dref). Bydd y digwyddiad yn dechrau am 12pm ac yn gorffen am 4pm.
Mae’r Diwrnod Chwarae i bobl o bob oed, o fabanod i neiniau a theidiau, ac mae croeso i bawb ymuno yn y digwyddiad rhad ac am ddim a chwareus hwn.
Bydd sefydliadau o bob cwr o Wrecsam yn dod at ei gilydd i gynnig ystod eang o gyfleoedd, gan gynnwys ffefrynnau fel y pwll tywod enfawr a chwarae sbwriel o flynyddoedd blaenorol.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Addysg, “Nod diwrnod chwarae Wrecsam yw tynnu sylw at bwysigrwydd hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymuned leol.”
“Mae’r digwyddiad rheolaidd hwn yn brawf o ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i sicrhau bod gan bob plentyn ar draws y fwrdeistref yr amser, y lle a’r rhyddid i chwarae.”
Dewch ag agwedd chwareus, dillad nad oes ots gennych os ydyn nhw’n mynd yn wlyb ac yn flêr, picnic, a mwynhewch Ddiwrnod Chwarae Wrecsam 2026.




