Bydd cenedlaethau o’r Gwarchodlu Cymreig, a’u teuluoedd, yn dod at ei gilydd ar 27 Mehefin, 2026 i gofio cyd-bersonél a phersonél cysylltiedig a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod rhyfel y Falklands ac Ymgyrch Herrick yn Affganistan.
Bydd gwasanaeth eglwys yn cael ei gynnal ar y diwrnod am 11am yn Eglwys San Silyn ac yn cael ei ddilyn gan orymdaith trwy ganol y ddinas i gofebau’r Falklands ac Affganistan ym Modhyfryd, lle cynhelir seremoni gosod torchau.
Yn ystod y digwyddiad, bydd cofeb newydd wedi’i chysegru i’r Gwarchodlu Cymreig a’r personél cysylltiedig a gollodd eu bywydau yn ystod Ymgyrch Herrick 10 ac 16 yn Affganistan yn cael ei dadorchuddio.
Mae’r gofeb wedi’i chreu o un llechen Gymreig o Flaenau Ffestiniog. Mae’n cynnwys enwau 12 o aelodau uned frwydro’r Gwarchodlu Cymreig yn ystod y ddwy daith hynny. Bydd yn lle parhaol i gofio, myfyrio a dangos parch i’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae’r penderfyniad i wneud Wrecsam yn gartref ysbrydol i’r Gwarchodlu Cymreig, ac i osod y gofeb hon yma, yn adlewyrchu cysylltiad cryf y ddinas â’r coffa o fewn teulu’r Gwarchodlu Cymreig, a’i chysylltiadau sefydledig drwy Ddiwrnod Cofio’r Falklands sy’n digwydd yn flynyddol. Mae hwn yn gysylltiad hirsefydlog, ac mae’n cynnwys rhoi Rhyddid y Fwrdeistref iddynt yn ôl yn 2014.
“Rwy’n annog pawb i lenwi strydoedd canol y ddinas i ddangos pa mor bwysig yw’r digwyddiadau hyn i bobl Wrecsam ar yr achlysur hwn o gyd-gofio, gan ddod â gwahanol genedlaethau o filwyr sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr, teuluoedd a ffrindiau ynghyd.”



