Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn Dathlu Wythnos Gofalwyr gyda Digwyddiad Cymunedol yn yr Hwb Lles (10 Mehefin)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Wrecsam yn Dathlu Wythnos Gofalwyr gyda Digwyddiad Cymunedol yn yr Hwb Lles (10 Mehefin)
Digwyddiadau

Wrecsam yn Dathlu Wythnos Gofalwyr gyda Digwyddiad Cymunedol yn yr Hwb Lles (10 Mehefin)

Diweddarwyd diwethaf: Mai 14, 2026 1:33 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
wellbeing hub
RHANNU

Mae Wrecsam yn falch o nodi Wythnos Gofalwyr 2026 drwy gynnal digwyddiad cymunedol arbennig yn yr Hwb Lles ddydd Mercher 10 Mehefin, rhwng 10am a 12pm. Nod y digwyddiad yw cydnabod cyfraniad hanfodol gofalwyr di-dâl ledled yr ardal a sicrhau bod ganddynt fynediad at y gefnogaeth, y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch genedlaethol sy’n tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu ac yn cydnabod yr effaith enfawr y maent yn ei chael ar deuluoedd, cymunedau, a’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Mae’r thema eleni yn canolbwyntio ar wneud gofalwyr yn ganolog i’n cymunedau, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

Bydd digwyddiad yr Hwb Lles yn dod ag ystod eang o sefydliadau lleol sy’n cynnig cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol ynghyd. Bydd stondinau gwybodaeth yn cynnwys:

  • Hosbis Tŷ’r Eos
  • Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru 
  • Cymru Gynnes
  • Groundwork
  • Adferiad
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
  • Tîm Taliadau Uniongyrchol
  • … a sawl partner cymunedol arall

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i siarad yn uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol, dysgu am y gwasanaethau sydd ar gael, ac archwilio opsiynau cymorth wedi’u teilwra i ofalwyr o bob oedran ac amgylchiadau.

Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn aml yn cydbwyso cyfrifoldebau sylweddol heb lawer o gydnabyddiaeth. Mae Wythnos Gofalwyr yn rhoi cyfle i ni ddathlu eu hymroddiad a sicrhau eu bod yn gwybod bod cymorth ar gael.

“Rydym yn annog unrhyw un sy’n darparu gofal, boed ar gyfer aelod o’r teulu, ffrind, neu gymydog i ddod draw, cysylltu â gwasanaethau lleol, a darganfod pa help sydd ar gael.”

M️ae’r digwyddiad am ddim a does dim angen cadw lle. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: commissioning@wrexham.gov.uk

Rhoi llais i iechyd meddwl: yr awdur Amelea yn rhannu ei cherdd bwerus  – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:carersgofalwyrGofalwyr di-dâlunpaid carers
Rhannu
Erthygl flaenorol Marchnadoedd Wrecsam yn ymuno ag ymgyrch genedlaethol 'Caru Eich Marchnadoedd Lleol' Marchnadoedd Wrecsam yn ymuno ag ymgyrch genedlaethol ‘Caru Eich Marchnadoedd Lleol’
Erthygl nesaf Dwylo person yn dal ffôn clyfar Rhif ffôn llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol i newid ar 19 Mai

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Elevate Conference
Digwyddiadau

Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd

Medi 30, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau

Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English