Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gorymdaith goffa a dadorchuddio cofeb – Mehefin 27
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Gorymdaith goffa a dadorchuddio cofeb – Mehefin 27
DigwyddiadauPobl a lle

Gorymdaith goffa a dadorchuddio cofeb – Mehefin 27

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 15, 2026 10:10 am
Rhannu
Darllen 2 funud
memorial
RHANNU

Bydd cenedlaethau o’r Gwarchodlu Cymreig, a’u teuluoedd, yn dod at ei gilydd ar 27 Mehefin, 2026 i gofio cyd-bersonél a phersonél cysylltiedig a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod rhyfel y Falklands ac Ymgyrch Herrick yn Affganistan.

Bydd gwasanaeth eglwys yn cael ei gynnal ar y diwrnod am 11am yn Eglwys San Silyn ac yn cael ei ddilyn gan orymdaith trwy ganol y ddinas i gofebau’r Falklands ac Affganistan ym Modhyfryd, lle cynhelir seremoni gosod torchau.

Yn ystod y digwyddiad, bydd cofeb newydd wedi’i chysegru i’r Gwarchodlu Cymreig a’r personél cysylltiedig a gollodd eu bywydau yn ystod Ymgyrch Herrick 10 ac 16 yn Affganistan yn cael ei dadorchuddio.

Mae’r gofeb wedi’i chreu o un llechen Gymreig o Flaenau Ffestiniog. Mae’n cynnwys enwau 12 o aelodau uned frwydro’r Gwarchodlu Cymreig yn ystod y ddwy daith hynny. Bydd yn lle parhaol i gofio, myfyrio a dangos parch i’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae’r penderfyniad i wneud Wrecsam yn gartref ysbrydol i’r Gwarchodlu Cymreig, ac i osod y gofeb hon yma, yn adlewyrchu cysylltiad cryf y ddinas â’r coffa o fewn teulu’r Gwarchodlu Cymreig, a’i chysylltiadau sefydledig drwy Ddiwrnod Cofio’r Falklands sy’n digwydd yn flynyddol. Mae hwn yn gysylltiad hirsefydlog, ac mae’n cynnwys rhoi Rhyddid y Fwrdeistref iddynt yn ôl yn 2014.

“Rwy’n annog pawb i lenwi strydoedd canol y ddinas i ddangos pa mor bwysig yw’r digwyddiadau hyn i bobl Wrecsam ar yr achlysur hwn o gyd-gofio, gan ddod â gwahanol genedlaethau o filwyr sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr, teuluoedd a ffrindiau ynghyd.”

Rhannu
Erthygl flaenorol don't bin it Peidiwch â’i daflu. Peidiwch â phrynu o’r newydd.
Erthygl nesaf HACK horse sanctuary in Wrexham Ymrwymiadau Maer Wrecsam – mis Mai a Mehefin

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English