Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhif ffôn llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol i newid ar 19 Mai
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhif ffôn llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol i newid ar 19 Mai
Y cyngor

Rhif ffôn llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol i newid ar 19 Mai

Diweddarwyd diwethaf: Mai 18, 2026 11:48 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Dwylo person yn dal ffôn clyfar
RHANNU

Ar hyn o bryd, os ydych chi’n cysylltu â’ch llyfrgell leol neu’ch canolfan adnoddau cymunedol leol dros y ffôn, rydych chi’n ffonio rhif ar gyfer y gangen benodol.

O ddydd Mawrth 19 Mai, 2026 rydym yn cyflwyno un rhif i’w alw ar gyfer pob ymholiad llyfrgell a chanolfannau adnoddau.

Y rhif newydd fydd 01978 292090. Dyma’r rhif ar hyn o bryd ar gyfer llyfrgell Wrecsam yng nghanol y ddinas, ond o 19 Mai hwn fydd y rhif i gysylltu ag unrhyw un o’n canghennau llyfrgell neu ganolfannau adnoddau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ar ôl y newid

  • Rhwng 19 Mai ac 11 Awst os ceisiwch ffonio un o’r hen rifau ffôn, byddwch yn clywed neges yn rhoi gwybod i chi am y newid ac yna byddwch yn cael eich trosglwyddo’n awtomatig i’r llinell gymorth newydd.
  • Os ceisiwch ffonio hen rif ffôn llyfrgell neu ganolfan adnoddau ar ôl 11 Awst, byddwch yn clywed neges i ddweud nad yw’r rhif ar gael mwyach ac i ddeialu 01978 292090, ac ar ôl hynny bydd yr alwad yn dod i ben.
  • Pan fyddwch chi’n mynd drwodd ar y llinell gymorth newydd, byddwch yn siarad â’n tîm canolfan gyswllt yn gyntaf, yna byddant yn eich trosglwyddo i’r gangen rydych chi’n gofyn amdani neu eich helpu gyda’ch ymholiad.
  • Bydd galwadau yn cael eu hateb rhwng dydd Llun a dydd Gwener 8.30am-6pm a dydd Sadwrn 9am – 4pm. Fodd bynnag, mae gan rai o’r llyfrgelloedd lleol oriau agor gwahanol

Yn yr un modd ag arfer, gallwch hefyd e-bostio pob lleoliad penodol gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych (llyfrau sydd ar gael neu ddigwyddiadau sydd i ddod er enghraifft). Gallwch ddod o hyd i gyfeiriadau e-bost ar y tudalennau gwe llyfrgelloedd lleol a chanolfannau cymunedol.

Os ydych chi’n adnabod rhywun y mae’n well ganddo gysylltu â’i lyfrgell neu ganolfan adnoddau dros y ffôn (yn hytrach nag ar e-bost neu wirio gwybodaeth ar-lein) yna rhowch wybod iddo am y newid hwn.


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Wrecsam yn Dathlu Wythnos Gofalwyr gyda Digwyddiad Cymunedol yn yr Hwb Lles (10 Mehefin)

Rhannu
Erthygl flaenorol wellbeing hub Wrecsam yn Dathlu Wythnos Gofalwyr gyda Digwyddiad Cymunedol yn yr Hwb Lles (10 Mehefin)
Erthygl nesaf housing development plan Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English