Gall prynu e-sgwter fod yn demtasiwn…ond ar hyn o bryd maeyn erbyn y gyfraith reidio e-sgwter preifat mewn man cyhoeddus.
Dyma gyngor gan Heddlu Gogledd Cymru…
“Nid yw’n bosibl cael yswiriant ar gyfer e-sgwteri preifat ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu ei bod yn anghyfreithlon eu defnyddio ar y ffordd neu mewn mannau cyhoeddus, megis parciau, ar balmentydd stryd, ac mewn canolfannau siopa.
“Os ydych yn defnyddio e-sgwter preifat yn gyhoeddus rydych mewn perygl y bydd eich cerbyd yn cael ei atafaelu o dan Adran 165 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 am nad oes gennych yswiriant.
“Os byddwch yn achosi niwed difrifol i berson arall tra’n reidio e-sgwter/e-feic modur, bydd y digwyddiad yn cael ei ymchwilio yn yr un modd ag y byddai petaech yn reidio beic modur neu’n gyrru car.
“Os ydych yn berchen ar e-sgwter, dim ond ar dir preifat y gallwch ei ddefnyddio, megis mewn gardd. Ond rhaid i chi gael caniatâd perchennog y tir i wneud hynny.”
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau.
Edrychwch ar wefan Heddlu Gogledd Cymru am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi’n rhentu cartref gyda’r cyngor…
Mae beiciau trydan, sgwteri trydan a byrddau hofran yn berygl tân posibl yn sgil y batris lithiwn-ïon sydd ynddynt.
Os ydych chi’n rhentu cartref gyda’r Cyngor, ni ddylech chi na’r bobl rydych chi’n gyfrifol amdanynt storio unrhyw beth allai fynd ar dân na ffrwydro yn eich cartref na mewn unrhyw ardal gymunedol.
Mae hyn yn cynnwys e-feiciau, e-sgwteri neu gerbydau tebyg sy’n cael eu gwefru â batris.




