Erthygl Gwadd – Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam
Mae Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam yn falch o gefnogi Wythnos Cysylltiadau Coetir 2026 sy’n dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol i ddathlu coed a choetiroedd ledled y Sir. Y thema eleni yw ‘Hygyrchedd i Bawb’ sy’n archwilio mynediad cyfartal i goed a choetiroedd a’r ymdrechion y mae Wrecsam yn eu gwneud i sicrhau bod mynediad at fuddion iechyd a lles coed yn gallu cael eu teimlo ledled y sir.
Mae’r wythnos yn dechrau ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun (ar ochr Gwersyllt) gyda diwrnod o ddarganfod trwy chwarae a chrefft natur yn ogystal â defnyddio’r llwybrau hygyrch sy’n rhedeg drwy’r parc ar gyfer helfa drysor ar thema natur. Dewch i ymuno â sefydliadau fel Coed Cadw, CBC Woodswork, Llais y Goedwig a Chyngor Wrecsam ddydd Sadwrn 13 Mehefin o 11-3pm.
Ymhlith y gweithgareddau bydd coginio gyda thân gwersyll, argraffu Hapa Zome ar ddail, gwneud eich bwydwr pili-palaod eich hun a helfa drysor wedi’i ysbrydoli gan natur. Bydd diodydd a lluniaeth hefyd yn cael eu cynnig. Mae Jacinta Challinor, cadeirydd Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam yn egluro: ‘Mae coed a choetiroedd yn cynnig cymaint o fanteision ar gyfer iechyd a lles ac mae’n bwysig bod pawb yn gallu eu profi yn gyfartal. Mae wythnos cysylltiadau coetir eleni yn tynnu sylw at hyn trwy gasgliad o ddigwyddiadau i archwilio’r hyn y byddai’n ei gymryd i gyflawni hyn a’r manteision niferus y byddai mynediad cyfartal at goed yn eu cynnig.’
Ymhlith y digwyddiadau eraill y gallwch ymuno â nhw mae cyfarfod cymunedol am ddim yn Felin Puleston gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, digwyddiad cerdded gyda’r coed gyda Woodland Classroom yng nghoedwig Stori Brymbo, gweithdy rheoli coed trefol yng nghanolfan Tŷ Pawb i ddysgu am bwysigrwydd coed mewn amgylcheddau trefol a myfyrdod dan arweiniad Solstice yng nghoedwig Fawnog Fach gyda CBC Woodswork. Gallwch ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau hyn a mwy ar dudalen Facebook Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam. Mae Hannah Farnell o Gyngor Wrecsam yn ychwanegu, ‘Daeth sefydliadau sy’n cefnogi a gwarchod coed a choetiroedd fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Coed Cadw a Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd i ffurfio Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam yn ôl yn 2022; credwn y dylai pawb deimlo manteision coed a choetiroedd ac mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn un ffordd y gallwn weithio gyda’n gilydd a chyrraedd rhwydwaith ehangach o bobl.’ Rydym yn annog pobl hefyd i gofrestru i’n haddewid coetir a thrwy wneud hynny byddant yn derbyn cylchlythyr chwarterol sy’n manylu ar yr holl ymdrechion y mae Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam yn eu gwneud i gefnogi coed a choetiroedd yn ogystal â’r gwahanol ffyrdd y gallwch chithau hefyd roi help llaw.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau yn ystod Wythnos Cysylltiadau Coetir, ewch i Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam / Wrexham Forest Partnership | Facebook ac i gofrestru ar gyfer yr addewid coetir, ewch i Addewid Coetir Wrecsam | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam




