Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cwmni Cynhyrchu Teledu yn ymgartrefu yng nghanolfan greadigol yr Hen Lyfrgell
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cwmni Cynhyrchu Teledu yn ymgartrefu yng nghanolfan greadigol yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwmni Cynhyrchu Teledu yn ymgartrefu yng nghanolfan greadigol yr Hen Lyfrgell

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 18, 2026 2:04 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Cwmni Cynhyrchu Teledu yn ymgartrefu yng nghanolfan greadigol yr Hen Lyfrgell
RHANNU

Mae Tŷ’r Ddraig yn gwmni cynhyrchu teledu a sefydlwyd ac wedi’i leoli yn Wrecsam.

Yn rhan o bwerdy cynnwys byd-eang Banijay, maent yn falch o’u gwreiddiau lleol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn credu’n angerddol mewn cynhyrchu’r straeon mwyaf difyr a phwysig o bob cwr o Gymru a’r DU.

Maent yn cynhyrchu cynnwys ffeithiol, fformatau ffeithiol a rhaglenni dogfen ar gyfer cynulleidfa yn y DU a rhyngwladol.

Wedi’i leoli i ddechrau yn y gofod y gellir ei rentu nn Nhŷ Pawb, mae’r cwmni, bellach wedi symud i’w gartref newydd yng nghanolfan Greadigol yr Hen Lyfrgell. Yn wir, Tŷ’r Ddraig oedd y busnes cyntaf i symud i’r ganolfan pan agorodd y llynedd.

Ganed a magwyd sylfaenydd y cwmni a’i Gyfarwyddwr Creadigol, Ben Smith, yn Wrecsam ac mae ganddo 25 mlynedd o brofiad teledu dan ei wregys. Roedd Ben yn awyddus i sefydlu busnes yng ngogledd Cymru, yn benodol Wrecsam, fel y gallent fod wrth galon y gymuned greadigol sy’n dod i’r amlwg yma.

Mae’r cwmni eisoes wedi cynhyrchu sawl sioe proffil uchel i’r BBC ac S4C, gan gynnwys

  • Lost and Found in the Lakes– mae’r sioe yn dilyn tîm o arbenigwyr, gan gynnwys deifwyr, olrheinwyr, a physgotwyr magned, wrth iddynt chwilio am a cheisio ailuno pobl ag eiddo gwerthfawr a gollwyd yn Ardal y Llynnoedd
  • Wild Reckoning – cyfres 16 rhan o BBC One ac iPlayer sy’n cynnwys Bear Grylls yn helpu pobl i adfer perthnasoedd dan straen yng ngwylltir Cymru.
  • GISDA – cyfres ddogfen Gymraeg a gomisiynwyd ar gyfer HANSH / S4C yn 2025. Mae’n dilyn bywydau pobl ifanc, agored i niwed a digartref sy’n derbyn cymorth gan elusen ddigartrefedd GISDA yng Ngogledd-orllewin Cymru.

Dywedodd Ben Smith, Cyfarwyddwr Creadigol Ty’r Ddraig “Mae ein swyddfa gynhyrchu newydd yn yr Hen Lyfrgell yn lleoliad perffaith ar gyfer creu a chyflwyno fformatau ffeithiol newydd cyffrous ac mae’n ein gosod lle rydyn ni eisiau bod – wrth galon cymuned greadigol Wrecsam. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynhyrchu gwerth 38 awr o raglenni newydd yr ydym yn falch o ddydd y bydd yn cael eu cyflwyno o’n canolfan yma yn y ddinas” 

Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol ar gyfer Busnes, yr Economi a Thwristiaeth yng Nghyngor Wrecsam: “Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid allanol i wella golwg ac ymarferoldeb canol ein dinas sy’n prysur ddatblygu. “Ar gyfer y prosiect hwn cawsom £4m o gyllid grant gan y Gronfa Trawsnewid Trefi a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’n galluogodd i adfywio’r adeilad a’r ased sydd wedi’i danddefnyddio i mewn i Hwb Creadigol sydd o fudd i’r ddinas, tra’n sicrhau ei fod yn cyfrannu tuag at gyflawni gweledigaeth strategol ac amcanion y ddinas a’r rhanbarth. “Tŷ’r Ddraig yw’r union fath o sefydliad yr oeddem yn ceisio ei ddenu i’r ganolfan, felly mae’n wych gweld eu bod bellach wedi setlo i mewn i’r adeilad ac yn mynd o nerth i nerth a ffurfio cysylltiadau cryf â phobl greadigol leol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Social services Ymestyn gofal plant a ariennir Dechrau’n Deg i bob plentyn dwy oed yn Wrecsam
Erthygl nesaf Eisteddfod Llangollen a Tŷ Pawb i gynnal cyngherddau haf AM DDIM yn Wrecsam Eisteddfod Llangollen a Tŷ Pawb i gynnal cyngherddau haf AM DDIM yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English