Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Partneriaid Gogledd Cymru yn annog pawb i aros yn ddiogel yn y gwres
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Partneriaid Gogledd Cymru yn annog pawb i aros yn ddiogel yn y gwres
ArallPobl a lle

Partneriaid Gogledd Cymru yn annog pawb i aros yn ddiogel yn y gwres

Erthygl gwestai gan Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 24, 2026 1:17 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Hot weather
RHANNU

Mae Gogledd Cymru o dan rybudd tywydd Oren ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i’r tymheredd barhau i fod yn uchel drwy’r wythnos.

Cynnwys
  • Lleihau peryglon tân
  • Cadw’n ddiogel o amgylch dŵr
  • Teithio

Mae gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, iechyd a phartneriaid eraill yn cydweithio fel rhan o Fforwm Gwydnwch Lleol y Gogledd i fonitro’r sefyllfa ar draws y rhanbarth ac i ymateb i unrhyw broblemau.

Anogir trigolion ac ymwelwyr â Gogledd Cymru i gymryd ychydig o gamau ychwanegol i gadw’n ddiogel yn y gwres.

  • Cadwch lygad ar eraill
  • Chwiliwch am gysgod rhwng 11am a 3pm
  • Gwisgwch eli haul SPF 30+
  • Gwisgwch het, sbectol haul a dillad llac
  • Yfwch ddigon o ddŵr

Lleihau peryglon tân

  • Peidiwch â dechrau tanau
  • Paciwch bicnic, nid barbeciw
  • Gwaredwch sigarennau yn ddiogel
  • Ewch â’ch sbwriel adref efo chi

Cadw’n ddiogel o amgylch dŵr

  • Gall dŵr fod yn beryglus o oer er y tywydd poeth. Osgowch neidio i ddŵr agored i oeri – cofiwch fynd i mewn i’r dŵr yn araf i leihau’r risg o sioc dŵr oer.
  • Os ewch chi i drafferth yn y dŵr, cofiwch ‘Arnofiwch i Aros yn Fyw’.
  • Os gwelwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch byth â mynd i mewn i’r dŵr eich hun. Ffoniwch 999.

Teithio

  • Meddyliwch. Ydi eich taith yn angenrheidiol? Allwch chi deithio ar adeg wahanol o’r dydd neu ei ohirio am ddiwrnod arall?
  • Os byddwch chi’n teithio ar y ffordd, ewch â digon o ddŵr gyda chi, cynlluniwch eich seibiannau, disgwyliwch rywfaint o aflonyddwch a gofalwch am eich gilydd.
  • Os byddwch chi’n teithio ar gludiant cyhoeddus, yfwch ddigon a chaniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith, mae’n bosib y bydd y tywydd poeth yn tarfu ar y gwasanaethau.
  • Dim ond lle caniateir gwersylla y dylid gwneud hynny.

Am y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ffynonellau dibynadwy ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein.

Am fwy o wybodaeth am leihau’r risg o dân yn ystod tywydd poeth a sych a chadw’n ddiogel o amgylch dŵr.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyngor ar gadw’n ddiogel yn ystod y gwres eithafol.

Rhybuddion y Swyddfa Dywydd

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwaith torri glaswellt wedi'i drefnu ar gyfer coridor yr A483 Gwaith torri glaswellt wedi’i drefnu ar gyfer coridor yr A483
Erthygl nesaf WRECSAM letters sculpture in Wrexham city centre Llythrennau eiconig WRECSAM yn barod am gartref newydd yn Stori Brymbo

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch
Arall Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Pobl a lle

Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam

Awst 19, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English