Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llythrennau eiconig WRECSAM yn barod am gartref newydd yn Stori Brymbo
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Llythrennau eiconig WRECSAM yn barod am gartref newydd yn Stori Brymbo
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn barod am gartref newydd yn Stori Brymbo

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 26, 2026 5:33 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
WRECSAM letters sculpture in Wrexham city centre
RHANNU

Mae llythrennau eiconig WRECSAM yn paratoi i ddechrau pennod nesaf eu taith yr wythnos hon, wrth iddyn nhw symud i Stori Brymbo – un o atyniadau i ymwelwyr mwyaf newydd a mwyaf arwyddocaol Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Yn dilyn ymddangosiad cyntaf hynod lwyddiannus yn Sgwâr y Frenhines yn gynharach eleni, lle bu miloedd o drigolion ac ymwelwyr yn tynnu lluniau gyda’r gosodwaith nodedig, bydd y llythrennau nawr yn cael lle blaenllaw yn Stori Brymbo fel rhan o raglen ehangach i arddangos rhai o gyrchfannau mwyaf eiconig Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Wedi’u creu gan y cerflunydd llif gadwyn enwog Simon O’Rourke o goeden dderw 200 mlwydd oed a gwympodd yn ystod stormydd yn Nhrefalun, mae’r llythrennau yn dathlu treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth gyfoethog Wrecsam.

Mae’r gosodwaith yn ymgorffori cerfiadau cymhleth sy’n darlunio tirnodau, straeon a chymunedau allweddol o bob rhan o’r fwrdeistref sirol.

Mae’r symudiad yn nodi cam cyntaf taith sydd wedi’i chynllunio, gan ganiatáu i’r llythrennau gael eu mwynhau gan gynulleidfaoedd newydd wrth annog trigolion ac ymwelwyr i archwilio gwahanol rannau o Sir Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae llythrennau WRECSAM eisoes wedi dal dychymyg trigolion ac ymwelwyr.

“Eu symudiad i Stori Brymbo yw’r union beth a ragwelwyd pan gafodd y prosiect ei greu – mynd â’r gosodwaith eiconig hwn i wahanol leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol, cefnogi twristiaeth, annog archwilio ac arddangos y gorau o Wrecsam.”

Mae Stori Brymbo ar fin dod yn un o atyniadau treftadaeth mwyaf cyffrous Gogledd Cymru, gan adrodd stori Gwaith Dur Brymbo a’r cymunedau a helpodd i lunio etifeddiaeth ddiwydiannol yr ardal. Bydd llythrennau WRECSAM yn rhoi croeso trawiadol i ymwelwyr a chyfle newydd poblogaidd i dynnu lluniau.

Dywedodd Nicola Eaton-Sawford, o Dyma Wrecsam a Phrif Weithredwr Stori Brymbo: “Mae llythrennau WRECSAM wedi dod yn symbol poblogaidd o falchder yn ein bwrdeistref sirol, felly rydyn ni’n falch iawn o’u croesawu i Stori Brymbo.

“Fel un o atyniadau i ymwelwyr newydd mwyaf cyffrous Wrecsam, mae’n lleoliad addas i barhau â’u taith, gan helpu ymwelwyr i ddathlu ein treftadaeth a’n dyfodol wrth annog archwilio popeth sydd gan Wrecsam i’w gynnig.”

Ariannwyd llythrennau WRECSAM drwy raglen Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru a’u cyflwyno drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Dyma Wrecsam ac amrywiaeth o sefydliadau a busnesau lleol.

Bydd lleoliadau pellach ar gyfer taith y llythrennau ledled y sir yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

Anogir trigolion ac ymwelwyr i ymweld â Stori Brymbo dros yr haf a rhannu eu lluniau gan ddefnyddio #DymaWrecsam a #WRECSAM.

Mae tocynnau bellach ar werth yn Stori Brymbo.

Byddwch yn un o’r cyntaf i gael y profiad, neu galwch heibio am goffi neu ginio.

Rhannu
Erthygl flaenorol Hot weather Partneriaid Gogledd Cymru yn annog pawb i aros yn ddiogel yn y gwres
Erthygl nesaf Sioe Deithiol Cynghrair Henoed Cymru yn ymweld â Wrecsam ym mis Gorffennaf 2026 Sioe Deithiol Cynghrair Henoed Cymru yn ymweld â Wrecsam ym mis Gorffennaf 2026

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English