Disgwylir i waith torri glaswellt a chynnal a chadw cylchol ar hyd yr A483 ddechrau fis nesaf.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru mewn cydweithrediad â Chyngor Wrecsam.
Disgwylir i’r gwaith ddechrau ddydd Sul 5 Gorffennaf ac mae disgwyl iddo barhau am oddeutu pedair wythnos.
Mae’r gwaith cynnal a chadw yn rhan o’r rhaglen waith gylchol reolaidd ar gyfer cefnffyrdd yn yr ardal. Mae disgwyl i waith tebyg ar yr A5 hefyd ddechrau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 29 Mehefin.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros y Gwasanaethau Amgylcheddol, “Rwy’n gwybod bod torri glaswellt ar hyd yr A483 yn fater y mae preswylwyr a defnyddwyr y ffordd yn ei godi’n rheolaidd, felly rwy’n falch o gadarnhau bod gwaith cynnal a chadw cylchol i fod i ddechrau ddydd Sul 5 Gorffennaf.”
“Mae’r gwaith hwn yn bwysig i helpu i gynnal gwelededd, cefnogi diogelwch ar y ffyrdd a chadw’r coridor mewn cyflwr da i’r rhai sy’n teithio drwy Wrecsam.”
“Mae’r A483 yn llwybr allweddol i’r ardal, a byddwn yn parhau i weithio gydag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn cael ei wneud.”
Gofynnir i fodurwyr gymryd gofal wrth deithio trwy unrhyw ardaloedd lle mae timau cynnal a chadw yn gweithio ac i ddilyn unrhyw reolaeth traffig dros dro.




