Mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i fynychu gwasanaeth coffa a gorymdaith arbennig y Falklands y Gwarchodlu Cymreig yn Wrecsam, fydd yn cynnwys dadorchuddio Cofeb newydd Gwrthdaro Affganistan.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 27 Mehefin a bydd yn dechrau gyda gwasanaeth eglwysig am 11am yn Eglwys y Plwyf San Silyn, cyn i orymdaith deithio i Fodhyfryd i ddadorchuddio’r gofeb newydd a chynnal gwasanaeth byr i osod torchau.
Mae gorymdaith flynyddol y Gwarchodlu Cymreig wedi cael ei gynnal ers 44 o flynyddoedd bellach ac mae’n parhau i gael ei gynnal yn Wrecsam bob blwyddyn, gan adlewyrchu’r cysylltiad cryf a hanesyddol rhwng y ddinas a’r gatrawd.
Mae gan y Gwarchodlu Cymreig gysylltiadau hirsefydlog â Wrecsam, rhoddwyd Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i’r gatrawd yn 2014 ac mae wedi cymryd rhan mewn nifer o Orymdeithiau Rhyddid drwy’r ddinas.
Bydd Cofeb newydd Gwrthdaro Affganistan yn anrhydeddu aelodau o’r Gwarchodlu Cymreig a wasanaethodd, a’r rhai a roddodd eu bywydau, yn ystod gweithrediadau yn Affganistan. Bydd y gofeb yn fan coffa parhaol a hygyrch i deuluoedd, cyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu a’r gymuned ehangach.
Mae cynrychiolwyr o’r Gwarchodlu Cymreig wedi dewis Wrecsam fel eu cartref ysbrydol i gofio, gyda’r gofeb newydd yn ategu’r cofebion presennol yn yr Ardd Goffa, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â’r Falklands, Burma a Normandi.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, “Mae gorymdaith y Gwarchodlu Cymreig yn ddigwyddiad pwysig a hirsefydlog yng nghalendr dinesig Wrecsam, ac mae bob amser yn fraint gweld preswylwyr, cyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu a theuluoedd yn dod at ei gilydd i gydnabod gwasanaeth y gatrawd.”
“Bydd digwyddiad eleni yn arbennig o ystyrlon gan ei fod yn cynnwys dadorchuddio Cofeb newydd Gwrthdaro Affganistan, gan ddarparu man parhaol i gofio.”
Mae croeso i breswylwyr fynychu’r gwasanaeth eglwysig, gwylio’r orymdaith ac ymuno â’r gwasanaeth gosod torchau ym Modhyfryd.
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: 27 Mehefin
Amser: 11am
Lleoliad: Eglwys y Plwyf San Silyn, ac yna gorymdaith i Fodhyfryd




