Mae’r tymor pêl-droed bellach ar ei ffordd, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi trefnu sut y byddwch chi’n cyrraedd y gêm nos Wener yma.
Pan fydd gêm ymlaen, gall parcio yng nghanol y ddinas gyrraedd capasiti yn eithaf cyflym, felly edrychwch ar y gwahanol opsiynau fforddiadwy isod i leihau’r straen o yrru a pharcio.
Parcio a theithio
Parcio am ddim a dim ond £1 am docyn dwyffordd i’r stadiwm (50c i blant, ac am ddim os oes gennych bàs teithio consesiynol ar gyfer y rheini dros 60 oed) a chyda 143 o fannau parcio, mae digon o le.
Mae Arriva Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru’n rhedeg pum bws cyn ac ar ôl y gêm, yn rhedeg bob 20 munud i Ffordd yr Wyddgrug, yn union y tu allan i’r cae.
Cymerwch gip ar y fideo isod i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio.
Bysus Arriva ym Mharth Wrecsam
Os ydych chi’n prynu tocyn diwrnod ar gyfer oedolyn i gyrraedd y gêm, bydd yn costio £2 yn unig pan fyddwch chi’n dangos eich tocyn gêm – mae hynny’n arbed £3.60!
Nid oes angen poeni am gael lle parcio a gallwch hyd yn oed alw heibio i ganol y ddinas am ddiod neu bryd o fwyd wedyn heb orfod meddwl am ba mor hir sydd gennych ar ôl ar eich tocyn parcio.


