Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Diweddarwyd diwethaf: Awst 26, 2026 10:06 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
RHANNU

Yn ddiweddar, mynychodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Jeremy Kent, sesiwn rhoi gwaed gan Wasanaeth Gwaed Cymru a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Farged yn Wrecsam.

Tra yno, torchodd ei lewys a rhoi rhywfaint o waed i helpu tuag at yr achos a allai achub bywydau.

Gall rhoi gwaed fod yr anrheg fwyaf gwerth chweil a hanfodol y gallwch ei roi i rywun mewn angen. Yng Nghymru yn unig, mae angen 350 o roddion y dydd ar ysbytai i gefnogi cleifion.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru angen rhoddwyr o bob cefndir i helpu i gadw i fyny â’r galw dyddiol am gyflenwadau. Mae gan un rhodd yn unig y potensial i achub tri chlaf. Mae’r broses yn gyflym, yn syml ac yn gwbl ddiogel. Mae unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf hwn yn gymwys i roi gwaed, os ydych chi:

  • Rhwng 17 a 66 oed (ar gyfer eich rhodd gyntaf)
  • Yn pwyso dros 7 stôn 12 pwys (50kg)
  • Yn iach ac nid ydych yn destun eithriadau meddygol

Mae dros bum clinig sy’n cynnal sesiynau rhoi gwaed yn Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos. Gallwch ddod o hyd i’ch clinig agosaf a’r holl wybodaeth ei hangen arnoch am roi gwaed drwy fynd draw i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Wrth siarad am ei ymweliad diweddar â’r clinig, dywedodd y Maer, “Hoffwn annog unrhyw un sy’n meddwl am roi gwaed i ddod draw i gymryd rhan yn un o’ch clinigau lleol. Mae’n gyflym ac yn hawdd ac, am yr ychydig eiliadau y mae’n eu cymryd i ni roddwyr, gallai o bosibl roi blynyddoedd i rywun mewn angen.

“Mae’n achos gwerth chweil y mae ein hysbytai yn dibynnu arno i barhau i wneud pobl yn ein cymuned yn well. Pa mor hyfryd fyddai gwybod eich bod wedi helpu i achub bywyd trwy eich gweithred o garedigrwydd.

“Roedd yn bleser mawr i mi roi ychydig ddiferion o waed heddiw gyda’r gobaith y gallai fynd tuag at y driniaeth hanfodol sydd ei hangen ar rywun. Boed i lwyddiant holl dîm Gwasanaeth Gwaed Cymru a’r holl wirfoddolwyr arwrol barhau”.

Mayor making a blood donation
Rhannu
Erthygl flaenorol The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English