Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Erthygl gwestai gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Diweddarwyd diwethaf: Medi 3, 2026 4:30 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Penley Hospital
RHANNU

Mae pobl ar draws Llannerch Banna a’r ardal gyfagos yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae’r ymgynghoriad, sy’n cael ei gynnal o 16 Gorffennaf tan 7 Hydref 2006, yn ceisio eich barn ar dri opsiwn posibl yn ymwneud â defnydd o’r ysbyty yn y dyfodol. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud, a bydd adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad yn helpu’r Bwrdd Iechyd i benderfynu pa opsiwn y dylid bwrw ymlaen ag ef.

Mae’r opsiynau wedi cael eu datblygu ar ôl sawl mis o ymgysylltu â chleifion, staff, trigolion lleol, sefydliadau parter a chynrychiolwyr cymunedol, lle cafodd ystod ehangach o syniadau eu hystyried cyn i’r tri opsiwn hyn gael eu nodi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae dogfennau’r ymgynghoriad yn esbonio pob opsiwn, y rhesymau pam mae’r newid yn cael ei ystyried a’r buddion a’r heriau posibl sy’n gysylltiedig â phob un.

Trwy gydol yr ymgynghoriad, bydd pobl yn gallu rhannu eu barn ar-lein, trwy’r post, e-bost neu mewn cyfres o ddigwyddiadau galw heibio i’r cyhoedd.

Dywedodd Paolo Tardivel, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Strategaeth a Chynllunio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rydym yn gwybod bod Ysbyty Llannerch Banna yn ased lleol pwysig a bod ei ddyfodol yn wirioneddol bwysig i bobl. Rydym yn ymrwymedig i wrando ar safbwyntiau pawb sydd â diddordeb yn yr ysbyty cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

“Rydym yn annog pobl i ddarllen y wybodaeth am yr ymgynghoriad, ystyried yr opsiynau ac i roi gwybod i ni am beth sydd pwysicaf iddynt hwy. Caiff pob ymateb ei ystyried yn ofalus cyn y bydd y Bwrdd Iechyd yn penderfynu ar y camau nesaf.”

Mae dogfennau ymgynghori (yn Gymraeg ac yn Saesneg), gan gynnwys dogfen gryno, fersiwn Iaith Arwyddion Prydain a Hawdd ei Darllen, ar gael ar-lein ac yn yr ardal leol. Mae copïau printiedig ar gael ar gais hefyd.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynd i unrhyw rai o’r digwyddiadau galw heibio a ganlyn yn Neuadd Pentref Owrtyn:

  • Dydd Mawrth 21 Gorffennaf, 10am–2.30pm
  • Dydd Iau 10 Medi, 10am–2.30pm
  • Dydd Mawrth 15 Medi, 2pm-7pm

Daw’r ymgynghoriad i ben am hanner nos ddydd Mercher 7 Hydref 2026.

Rhannu
Erthygl flaenorol BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English