Disgwylir i waith gwella gael ei gynnal yn Amlosgfa Pentrebychan dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys gosod troedffordd a ffordd fynediad newydd a gwaith ailosod wyneb ffordd y tu allan i’r safle.
Disgwylir i’r gwaith ar y droedffordd a’r ffordd fynediad newydd ddigwydd rhwng 12 a 21 Medi.
Dilynir hyn gan waith gosod wyneb newydd ar y briffordd y tu allan i’r amlosgfa, gyda gwaith paratoi yn cael ei gynnal rhwng 17 a 18 Hydref, a chwblhau ailosod wyneb y ffordd rhwng 24 a 27 Hydref.
Mae’r gwaith wedi’i gydlynu i gyd-fynd â chyfnod arfaethedig cau’r amlosgfa er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Mae’n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi yn ein mannau cyhoeddus a’n seilwaith a’u cynnal i safon uchel.
Mae Amlosgfa Prentrebychan yn lle y mae llawer o bobl yn ymweld ag ef ar adegau arbennig o bwysig a sensitif, felly rydym eisiau sicrhau bod yr amgylchedd cyfagos yn ddiogel, yn hygyrch ac yn cael ei gynnal yn dda.
Rydym yn gwerthfawrogi amynedd pawb wrth i’r gwelliannau hyn gael eu gwneud.”
Bydd mynediad i dir yr amlosgfa, y swyddfa a’r Llyfr Cofio yn parhau i fod ar gael trwy gydol y gwaith i unrhyw un sy’n dymuno ymweld.


