Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Y cyngor

Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las

Diweddarwyd diwethaf: November 16, 2026 11:42 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i warchod bywyd gwyllt ym Mharc Stryt Las yn dilyn adroddiadau pryderus o ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwed bwriadol tuag at adar yn y man harddwch poblogaidd yn Johnstown.

Rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ac ysgolion lleol i fynd i’r afael â phryderon parhaus, wrth archwilio mesurau ychwanegol hefyd, gan gynnwys teledu cylch cyfyng i helpu i atal rhagor o ddigwyddiadau.

Mae adroddiadau diweddar wedi cynnwys honiadau o elyrch ac adar gwyllt eraill yn cael eu targedu â chatapyltiau a cherrig, gan ysgogi pryderon difrifol am ddiogelwch a lles bywyd gwyllt yn y parc.

Mae Parc Stryt Las yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys elyrch, hwyaid a madfallod dŵr cribog gwarchodedig. Mae’r parc wedi’i ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Johnstown.

Mae adar gwyllt yn cael eu gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac mae eu lladd neu eu hanafu’n fwriadol yn drosedd, ac eithrio mewn amgylchiadau a ganiateir gan y gyfraith.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Rydym yn bryderus iawn am yr adroddiadau bod bywyd gwyllt yn cael ei dargedu’n fwriadol ym Mharc Stryt Las.

Mae niweidio anifeiliaid diamddiffyn yn gwbl annerbyniol, ac ni fyddwn yn goddef y math hwn o ymddygiad yn ein cymunedau.

Mae’r rhain yn greaduriaid byw sy’n haeddu cael eu gwarchod, nid cael eu trin yn greulon. Gall yr hyn y byddai rhai pobl yn ei ddiystyru fel ychydig bach o hwyl achosi anafiadau difrifol, dioddefaint a hyd yn oed marwolaeth.

Mae niweidio bywyd gwyllt yn fwriadol yn drosedd gyda chanlyniadau difrifol.

Fodd bynnag, mae gwarchod ein bywyd gwyllt yn gyfrifoldeb i bawb. Byddwn yn annog rhieni a gwarcheidwaid i siarad â’u plant am bwysigrwydd parchu anifeiliaid a chanlyniadau difrifol posibl eu niweidio.

Rydw i hefyd yn annog unrhyw un sy’n dyst i’r ymddygiad hwn, neu sydd â gwybodaeth a allai helpu i adnabod y rhai sy’n gyfrifol, i roi gwybod am hynny i’r heddlu.”

Fel rhan o ymdrechion parhaus i warchod bywyd gwyllt ym Mharc Stryt Las, mae posteri wedi’u paratoi ac yn cael eu harddangos o amgylch yr ardal.

Mae’r posteri’n atgoffa ymwelwyr o bwysigrwydd gwarchod elyrch ac adar sy’n nythu, yn annog pobl i roi gwybod am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn rhoi gwybodaeth am sefydliadau a all gynorthwyo gyda bywyd gwyllt sydd wedi’i anafu neu mewn trallod.

Gofynnwn hefyd i gŵn gael eu cadw ar dennyn o amgylch y llyn i helpu i warchod elyrch ac adar sy’n nythu.

Trwy weithio gyda sefydliadau partner, ysgolion a’r gymuned ehangach, rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth, atal ymddygiad niweidiol a sicrhau bod y parc yn parhau i fod yn amgylchedd diogel i’w fywyd gwyllt.

Dywedodd PC Chris James o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru, “Rydym yn ymchwilio i adroddiadau o bobl ifanc yn defnyddio catapyltiau ac yn taflu cerrig at adar gwyllt o amgylch y pyllau ar Stryt Las, Johnstown.

“Mae’r arfau hyn yn cael eu defnyddio mewn modd anghyfreithlon i ladd ac achosi anafiadau trychinebus i adar dŵr, gan gynnwys elyrch, gwyddau a hwyaid, yn ogystal â gwylanod, colomennod coed ac adar gwyllt eraill.

“Mae lladd neu anafu adar gwyllt yn drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a gall arwain at hyd at chwe mis o garchar, a dirwy o £5,000.

“Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy 101, y ffurflen adrodd ar-lein ar ein gwefan, neu yn ddienw drwy’r elusen annibynnol, Crimestoppers.”

Rydym yn annog unrhyw un sy’n dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, niwed bwriadol tuag at fywyd gwyllt neu weithgaredd amheus yn ymwneud ag adar ym Mharc Stryt Las i roi gwybod amdano.

Gallwch ffonio 101 i roi gwybod am ddigwyddiadau nad ydynt yn argyfwng neu roi gwybod am bryderon drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Os oes trosedd yn digwydd sy’n ymwneud â bywyd gwyllt ac mae angen cymorth yr heddlu ar unwaith, ffoniwch 999.

Os ydych yn dod o hyd i alarch neu anifail gwyllt arall y mae’n ymddangos ei fod wedi’i anafu neu mewn trallod, ffoniwch yr RSPCA ar 03001238960 neu rhowch wybod am y pryder drwy wefan yr RSPCA.

Cynghorir aelodau o’r cyhoedd i beidio â cheisio trin neu gludo adar mawr sydd wedi’u hanafu.

I gael cyngor ar adar gwyllt neu bryderon sy’n ymwneud â throseddau bywyd gwyllt, gallwch gysylltu â Thîm Bywyd Gwyllt yr RSPB ar 01767693690, neu fel arall, gallwch gysylltu â nhw trwy e-bost.

Dylid rhoi gwybod am droseddau bywyd gwyllt amheus i’r heddlu yn y lle cyntaf.

Gofynnwn i bawb sy’n ymweld â Pharc Stryt Las barchu bywyd gwyllt, bod yn wyliadwrus a helpu i warchod yr anifeiliaid sy’n galw’r parc yn gartref. 

Rhannu
Erthygl flaenorol Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2 Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)
Pobl a lle Arall
November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Digwyddiadau Pobl a lle
November 12, 2026
van
Angen Crefftwyr Medrus – Ymunwch â Thîm Atgyweirio Tai Wrecsam!
Arall
November 12, 2026
Foster carers Del and Gary from Wrexham
Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal
Y cyngor Pobl a lle
November 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngorDigwyddiadau

Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!

November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor

Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth

November 10, 2026
Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English