Mae pobl sy’n teithio i ac o gwmpas Wrecsam a’r cyffiniau ar y trên yn cael eu hannog i fanteisio ar brisiau talu wrth fynd Trafnidiaeth Cymru, gan gynnig ffordd syml a chyfleus o deithio – gan gynnwys ar ddiwrnodau gemau prysur.
Mae’r system tapio i mewn, tapio allan yn galluogi teithwyr i deithio heb brynu tocyn ymlaen llaw. Yn syml, mae cwsmeriaid yn defnyddio cerdyn banc neu ddyfais dalu ddigyffwrdd i dapio i mewn ar ddilyswr y platfform neu ar y giât sy’ngalluogi talu wrth fynd ar ddechrau eu taith, cyn tapio allan gyda’r un cerdyn neu ddyfais pan fyddan nhw’n cyrraedd eu cyrchfan.
Mae’r cynllun eisoes ar gael mewn nifer o orsafoedd ar lwybrau i mewn i Wrecsam, gyda phrisiau talu wrth fynd i Wrecsam Cyffredinol ar hyn o bryd yn cynnwys:
| Taith i Wrecsam Cyffredinol | Pris sengl Talu wrth Fynd | Pris dychwelyd Talu wrth Fynd |
| Bidston | £3.90 | £7.80 |
| Upton | £3.90 | £7.80 |
| Heswall | £3.30 | £6.60 |
| Neston | £3.30 | £6.60 |
| Pont Penarlâg | £2.70 | £5.40 |
| Shotton | £2.70 | £5.40 |
| Penarlâg | £2.70 | £4.60 |
| Bwcle | £2.70 | £4.10 |
| Pen-y-ffordd | £2.70 | £3.90 |
| Yr Hôb | £2.20 | £3.40 |
| Caergwrle | £2.20 | £3.00 |
| Cefn-y-Bedd | £2.20 | £2.90 |
| Gwersyllt | £1.70 | £1.90 |
| Wrecsam Canolog | £1.70 | £2.20 |
Atgoffir teithwyr bod yn rhaid iddyn nhw dapio i mewn a thapio allan ar gyfer pob taith gan ddefnyddio’r un cerdyn neu ddyfais dalu er mwyn osgoi talu unrhyw daliadau cosb ychwanegol.
Rhwydwaith talu wrth fynd yn ehangu o fis Medi
Yn rhan o’r cam cyntaf o’i sefydlu, cafodd gwasanaeth talu wrth fynd Trafnidiaeth Cymru yng Ngogledd Cymru ei gyflwyno mewn pymtheg gorsaf newydd ym mis Mai 2026.
Y bwriad yw lansio’r ail gam o ddiwedd mis Medi 2026, gan ymestyn y gwasanaeth talu wrth fynd i ddeg gorsaf arall a chynyddu’n sylweddol nifer y teithiau y gellir eu gwneud gan ddefnyddio technoleg tapio i mewn, tapio allan.
Bydd gorsafoedd ychwanegol cam dau yn cynnwys:
- Y Rhyl
- Prestatyn
- Y Fflint
- Caer
- Helsby
- Frodsham
- Dwyrain Runcorn
- Rhiwabon
- Y Waun
- Gobowen
Bydd yr ehangiad yn ymestyn talu wrth fynd y tu hwnt i Wrecsam a’r cyffiniau, gan greu mwy o gyfleoedd i deithwyr sy’n teithio o bob rhan o Ogledd Cymru ac ardaloedd cyfagos ddefnyddio taliad digyffwrdd ar gyfer eu teithiau.
Mae Cyngor Wrecsam a Trafnidiaeth Cymru hefyd yn edrych ar ffyrdd o annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn Wrecsam a’r cyffiniau, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur fel diwrnodau gemau Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Rydyn ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth deithio i Wrecsam, ac mae’r system tapio i mewn, tapio allan yn rhoi opsiwn syml iawn arall i deithwyr.
Does dim angen prynu tocyn ymlaen llaw – gallwch dapio i mewn ar ddechrau’ch taith a thapio allan pan fyddwch chi’n cyrraedd, a all wneud teithio ar y trên yn arbennig o gyfleus i bobl sy’n dod i mewn i’r ddinas.
Mae’n wirioneddol gadarnhaol gweld y rhwydwaith yn ehangu eto o fis Medi. Bydd ychwanegu deg gorsaf arall yn rhoi cyfle i hyd yn oed rhagor o bobl ddefnyddio’r system talu wrth fynd wrth deithio i ac o Wrecsam.
Gyda miloedd o bobl yn teithio i Wrecsam ar ddiwrnodau gemau, gall annog mwy o bobl i ystyried trafnidiaeth gyhoeddus helpu i wneud teithiau’n haws i bawb.
Byddwn ni’n annog cefnogwyr, trigolion ac ymwelwyr i edrych ar y prisiau sydd ar gael ac ystyried y trên wrth gynllunio eu taith nesaf i Wrecsam – a chofiwch bob amser dapio i mewn ac allan gan ddefnyddio’r un cerdyn neu ddyfais i gwblhau eich taith ac osgoi talu unrhyw ffioedd cosb.”
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflwyno’r gwasanaeth talu wrth fynd ar draws Gogledd Cymru, gyda disgwyl i gam dau ychwanegu’r deg gorsaf ychwanegol o ddiwedd mis Medi 2026.


