Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Diweddarwyd diwethaf: Medi 22, 2026 9:13 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Gresford memorial wheel
Gresford Colliery disaster Memorial pit head
RHANNU

Am 11 o’r gloch heddiw (Dydd Mawrth, Medi 22) wrth Gofeb Olwyn y Glowyr, Pandy, cynhelir y gwasanaeth blynyddol er cof am drasiedi waethaf Wrecsam, sef trychineb Pwll Glo Gresffordd.

Cynnwys
  • Dychmygwch…
  • ‘Yn union fel uffern’
  • Y canlyniadau
  • Cofio Gresffordd…

Fe deimlodd pawb yn Wrecsam effaith drom y drychineb, gan y bu farw rhywun o bron pob pentref yn y fwrdeistref sirol.

Dychmygwch…

Mae’n nos Wener, 21 Medi, 1934. Mae glowyr yn mynd i lawr i adran Dennis pwll glo Gresffordd er mwyn cychwyn eu shifft.

Mae’n brysurach nac arfer gan bod llawer ohonynt yn ‘dyblu fyny’ er mwyn bod yn rhydd i wylio gêm bêl-droed Wrecsam ar y prynhawn dydd Sadwrn. Yn anffodus, dim ond 6 ohonyn nhw fydd yn dychwelyd.

Am 2:08am fore Sadwrn (22 Medi), rhwygodd ffrwydriad drwy’r pwll glo, gan ladd nifer fawr o lowyr.

Mae Edward William, Cynorthwywr Injan yn Dennis ar y pryd yn cofio: “Daeth yn nes fel taran ac yna aeth pobman yn ddu. Allech chi ddim gweld unrhyw beth.”

Gresford pit disaster news coverage

‘Yn union fel uffern’

Anfonwyd dros 200 o weithwyr achub mewn ymdrech i achub y glowyr. Dim ond 11 corff a adferwyd – a thri o’r rheiny yn perthyn i’r tîm achub cyntaf.

Dywedodd un o’r achubwyr bod y pwll glo ‘yn union fel uffern’.

Pan gyrhaeddodd y newyddion y dref, ymgasglodd torfeydd o amgylch y pwll – menywod a phlant yn aros am anwyliaid na fyddent byth yn dod adref.

Wedi 40 awr o waith caled daeth yn amlwg i’r achubwyr nad oedd neb ar ôl yn fyw i’w hachub, felly penderfynwyd cau’r siafftiau am 6pm ar y prynhawn Sul.

Gresford pit disaster media coverage

Y canlyniadau

Roedd trychineb Pwll Glo Gresffordd yn un o drychinebau gwaethaf Wrecsam… ond nid oes llawer o sylw wedi ei roi i ganlyniadau’r drychineb, a’r effaith a gafwyd ar deuluoedd a chydweithwyr y dioddefwyr.

O ganlyniad i’r ffrwydriad, roedd 200 yn weddw, 800 heb dad a 1,600 yn ddi-waith.

Roedd hyn mewn cyfnod lle nad oedd yr un cyfleoedd gan fenywod ag oedd gan ddynion.

Roedd colli gŵr yn golygu mwy na bod yn wraig weddw alarus…roedd yn golygu bod yn weddw gyda’r cyfrifoldeb o ddarparu ar ei chyfer ei hun a’i phlant heb unrhyw ffynhonnell incwm.

Bu’n rhaid i weddill y dynion a gyflogwyd yn y pwll glo edrych am waith arall – yn aml heb unrhyw lwc.

Roedd y dyfodol i’w weld yn ddigalon iawn i Wrecsam; byddai rhai yn ei chael hi’n anodd goroesi hyd yn oed. Byddai’n chwe mis tan i’r pwll ail agor.

Bu’r drasiedi yn y newyddion cenedlaethol a derbyniodd gydnabyddiaeth gan y Brenin.

Lledodd y gair am y teuluoedd oedd yn ei chael hi’n anodd a sefydlwyd cronfa gymorth er mwyn helpu’r rheiny oedd mewn angen. Codwyd mwy na £550,000, fodd bynnag ni ellid gwneud iawn am y bywydau a gollwyd.

Cofio Gresffordd…

Eleni mae hi’n 92 mlynedd ers i 266 o ddynion a bechgyn golli eu bywydau.

Cynhelir y gwasanaeth coffa blynyddol i nodi Trychineb Pwll Glo Gresffordd Heddiw (Dydd Mawrth, 22 Medi) am 11am ger Cofeb Olwyn y Glowyr, Bluebell Lane, Pandy.

Rhannu
Erthygl flaenorol Street lighting Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Pobl a lle

Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English