Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed

Diweddarwyd diwethaf: Medi 24, 2026 1:38 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
Cynghorydd David A Bithell a Fiona McCreadie - Rheolwr Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon
RHANNU

Mae pobl yn Wrecsam yn cael eu hannog i fynychu dangosiad ffilm ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r DU am yr argyfwng hinsawdd a natur sy’n ein hwynebu.

Rhyddhawyd The People’s Emergency Briefing ym mis Ebrill eleni ac mae’n cael ei dangos mewn cymunedau, gweithleoedd, cynghorau, sinemâu a lleoliadau eraill ledled y wlad.

Mae’r ffilm yn seiliedig ar sesiwn friffio arwyddocaol a gynhaliwyd yn San Steffan, lle cyflwynodd arbenigwyr blaenllaw o’r DU dystiolaeth i fwy na 1,200 o wleidyddion, arweinwyr busnes a ffigurau dylanwadol eraill.

Wedi’i chyflwyno gan Chris Packham, mae’n archwilio amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • Newid hinsawdd a thywydd eithafol.
  • Colli natur a dirywiad bioamrywiaeth.
  • Diogeledd bwyd.
  • Iechyd y cyhoedd.
  • Gwydnwch seilwaith.
  • Yr economi.
  • Diogelwch cenedlaethol.

Atebion a chamau posibl y gall cymunedau, sefydliadau a llywodraethau eu cymryd.

Bydd dangosiad cyhoeddus ddydd Llun, 5 Hydref, rhwng 6pm ac 8pm yng nghanolfan Tŷ Pawb yng nghanol dinas Wrecsam. Mae croeso i bawb.

Archebwch eich tocynnau am ddim nawr.

Cadwch le nawr

Dylai pawb wylio’r ffilm hon

Gwyliodd cynghorwyr ac uwch reolwyr Wrecsam y ffilm yn ddiweddar i ddysgu mwy am yr heriau sy’n wynebu’r DU, ac i edrych ar sut y gall y Cyngor ymateb ar lefel leol.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell, sy’n arwain ymateb y Cyngor i newid hinsawdd: “Mae’r byd yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur enfawr, a bydd Wrecsam – fel pob cymuned arall – yn teimlo’r effaith.

“Mae’n hawdd anwybyddu’r broblem oherwydd ei fod yn teimlo’n rhy fawr i fynd i’r afael ag ef ar lefel leol, ond y gwir yw y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan – nid cyfrifoldeb arweinwyr y byd a diwydiannau mawr yn unig yw hyn i gyd.

“Nid problem yfory yw hon… mae’n broblem i heddiw, ac mae’n rhywbeth a fydd yn effeithio ar bob un ohonon ni a’n plant, felly dewch i weld y ffilm os gallwch chi.

“Nid yw’n drist nac yn frawychus – mae’n ddiddorol, addysgiadol ac ysbrydoledig iawn, ac efallai ei fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed.

“Mae’r Cyngor eisiau i drigolion fod yn rhan o’r sgwrs hon, oherwydd mae gan y materion sy’n cael eu harchwilio yn y ffilm y potensial i effeithio ar bawb – o gostau iechyd a chostau’r cartref i fwyd, llifogydd, gwasanaethau lleol a’r lleoedd rydyn ni’n byw.

“Po fwyaf ydyn ni’n gwybod, y gorau fyddwn ni am baratoi, ymateb a llunio dyfodol mwy gwydn i Wrecsam.”


The People’s Emergency Briefing

Dydd Llun, Hydref 5

6pm-8pm

Tŷ Pawb, Wrecsam, LL13 8BB

Cadwch le nawr

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English