Mae ychwanegiad newydd, cyffrous i safle Ysgol Gynradd yr Holl Saint yng Ngresffordd wedi agor yn ddiweddar, gan ddod â gofod newydd gwych i ddisgyblion lleol.
Ar ôl misoedd o gynllunio manwl, mae’r ysgol wedi datgelu ei chyfleuster llyfrgell newydd sydd hefyd yn cynnwys ystafell TGCh ac ystafell therapi.
Un o flaenoriaethau parhaus yr ysgol yw cefnogi a datblygu darllen a llythrennedd ar draws yr ysgol. Gyda’r cyfleuster llyfrgell newydd hwn, gall y staff ymroddedig barhau â’r nod hwn i’w dysgwyr ifanc.
Cafodd adeilad y llyfrgell ei hun ei gario ar y safle gyda chraen ar Lôn y Clapwyr ac mae’n ddigon mawr i ddarparu ar gyfer ymweliadau dosbarth cyfan yn y dyfodol.
Ymweliadau ysbrydoledig
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr adeilad newydd o ymweliad diweddar ag Ysgol Eton House yn Singapore a oedd yn llwyddiant mawr. Yn ystod yr ymweliad, sylwodd staff Ysgol yr Holl Saint ar sut oedd disgyblion yn ymgysylltu â nofelau clasurol ac yn archwilio llyfrau yn annibynnol yng nghyfleusterau llyfrgell Eton House.
Ar ôl gweld pa mor gadarnhaol oedd y plant yn ymateb i amrywiaeth mor eang o lyfrau, roedd staff Ysgol yr Holl Saint yn benderfynol o greu a darparu gofod tebyg i’n plant lleol yn y gobaith o ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen.
Gwaith caled yn talu ar ei ganfed
Yn dilyn cyngor gan yr adran Addysg yng Nghyngor Wrecsam, sicrhaodd Pennaeth Ysgol yr Holl Saint, Mr Richard Hatwood, gyllid gan Libraries for Primaries a’r Loteri Genedlaethol, ynghyd â buddsoddiad o gyllideb yr ysgol.
Sicrhaodd gwaith caled ac ymroddiad Mr Hatwood y byddai’r cyllid yn galluogi’r ysgol i allu prynu ac ail-bwrpasu’r adeilad symudol sydd bellach wedi dod yn llyfrgell newydd.
Mae misoedd o gynllunio manwl wedi arwain at y gwaith gorffenedig ar y safle heddiw – gofod dysgu bywiog, croesawgar a phwrpasol. Yma, gall disgyblion ddod i ddatblygu angerdd gwirioneddol at ddarllen.
Wrth siarad am agor gofod y llyfrgell newydd, dywedodd Mr Hatwood: “Ar ôl sawl mis, mae’n wych agor drysau’r llyfrgell newydd o’r diwedd a gweld ein disgyblion yn ymateb yn frwdfrydig iddi.
“Rydw i am ddiolch i bawb sydd wedi helpu i wneud hyn yn realiti ar hyd y ffordd ac i bawb a helpodd i sicrhau’r cyllid. Mae hon yn bennod newydd gyffrous iawn yn stori ein hysgol.
“Ein nod yw adeiladu a thyfu ar y llwyddiant cychwynnol rydyn ni wedi’i gael i barhau, gobeithio, i roi’r amgylchedd gorau posibl y gallwn ni i blant ein cymuned iddyn nhw ddysgu, a’u hysbrydoli trwy’r amrywiaeth wych o lyfrau sydd gennyn ni yma”.
Agoriad mawreddog
Nododd yr ysgol ddyfodiad y llyfrgell newydd gydag agoriad swyddogol i ddathlu’r ychwanegiad diweddaraf i’r safle.
Roedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Jeremy Kent, yn bresennol i helpu i nodi’r achlysur arbennig ac i edrych ar yr hyn oedd gan lyfrgell Ysgol yr Holl Saint i’w gynnig.
Wrth siarad am yr agoriad, dywedodd y Maer: “Mae hwn yn ychwanegiad mor haeddiannol i’r ysgol. Rydw i’n gwybod pa mor ymroddedig yw’r staff yn Ysgol Gynradd yr Holl Saint ac rydw i’n gwybod faint o ymdrech sydd wedi mynd i mewn i sicrhau bod hyn yn dwyn ffrwyth.
“Mae’r llyfrgell newydd yn edrych yn anhygoel a gallwch weld bod y disgyblion eisoes wrth eu bodd i gael gofod mor wych. Roedd yn hyfryd gweld pa mor gyffrous oedden nhw i gyd wrth weld yr ystafell a’r amrywiaeth enfawr o lyfrau i’w mwynhau.
“Rydw i am longyfarch Mr Hatwood a’r holl staff gwych yn Ysgol Gynradd yr Holl Saint ar gyflawniad mor wych ac rydw i’n gobeithio y bydd llawer o oriau hapus yn dod o hyd i lawenydd mewn geiriau”.

Penodau newydd cyffrous
Ym mis Medi, croesawodd Ysgol yr Holl Saint ei phrif lyfrgellydd newydd, Miss Cook. Bydd yn arwain ar drefnu a chatalogio casgliad cynyddol o lyfrau’r ysgol.
Bydd hefyd yn ffigwr allweddol wrth helpu’r disgyblion i wneud y gorau o’r cyfleuster newydd cyffrous hwn a chael mynediad at lu o ddeunyddiau cyfeirio.
Nawr, gall disgyblion edrych ymlaen at oriau lawer o ddatgelu bydoedd hollol newydd trwy bŵer darllen diolch i’w llyfrgell newydd sy’n darparu cefndir i’w hanturiaethau nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae’n wych clywed am ychwanegiad newydd y cyfleuster llyfrgell i Ysgol Gynradd yr Holl Saint. Mae llenyddiaeth yn elfen allweddol o addysg a datblygiad unrhyw ddysgwr ifanc.
“Rydw i’n gwybod pa mor ddiwyd mae’r staff yma wedi gweithio i ddarparu cyfleuster o’r ansawdd uchaf y gallent i’w disgyblion ac rydw i am eu llongyfarch ar lwyddo i wireddu eu gweledigaeth.
“Diolch i bawb a helpodd i ddod â’r gofod rhagorol hwn i’r gymuned leol”.



