Mae Wrecsam wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2029.
Mae’r ddinas wedi’i henwi ar y rhestr fer derfynol, a bydd nawr yn cystadlu yn erbyn Blackpool, Sheffield a Milton Keynes am y teitl mawreddog, a fydd yn dod â manteision economaidd a diwylliannol enfawr i’r ddinas fuddugol.
Bydd y canlyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr neu fis Ionawr, ac os bydd Wrecsam yn dod i’r brig, hi fydd y ddinas gyntaf yng Nghymru i ennill y gystadleuaeth.
Yn ogystal â buddsoddiad cychwynnol o £10 miliwn gan yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU, amcangyfrifir y byddai’r effaith economaidd yn werth mwy na £200 miliwn i Wrecsam – gan greu cyfleoedd swyddi newydd, denu mwy o ymwelwyr a manteision cymdeithasol a diwylliannol ehangach.
Mae cais Wrecsam yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Cymuned a Diwylliant Wrecsam, gyda chefnogaeth gan Gyngor Wrecsam, cymunedau lleol a phobl fusnes, actorion, cerddorion, gwleidyddion ac artistiaid blaenllaw sydd â chysylltiadau dwfn â’r ddinas.
Wrth ymateb i’r newyddion heddiw, dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae cyrraedd y rhestr fer yn newyddion gwych ac mae’r bobl sy’n arwain ein cais yn gwneud eu gorau glas i wireddu hyn.
“Mae ein henw da yn tyfu, ac os dywedwch eich bod yn dod o Wrecsam – prifddinas Gogledd Cymru – mae pobl yn gwybod ble rydym ni.
“Rydyn ni ar y map ac yn mynd o nerth i nerth, ond mae gennym heriau enfawr o hyd o ran cyfleoedd economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau, a byddai ennill y gystadleuaeth hon yn gam arall tuag at oresgyn yr heriau hynny, magu hyder yn ein cymunedau a dangos i’r byd sut le yw Wrecsam mewn gwirionedd.”

Mae Wrecsam yn ceisio ennill y gystadleuaeth am yr eildro, ar ôl colli o drwch blewyn yn 2025.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol cais Wrecsam2029: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol. Ers ein cais blaenorol, rydym wedi parhau i roi diwylliant wrth wraidd ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer Wrecsam.
“Gyda’n partneriaid, rydym eisoes yn gwneud llawer iawn o waith i greu cyfleoedd a gwella bywydau ein cymunedau y tu hwnt i 2029. Fodd bynnag, mae Wrecsam yn dal i wynebu heriau ac anghydraddoldebau sylweddol, a byddai ennill yn dod â’r buddsoddiad a’r proffil ychwanegol angenrheidiol, gan helpu i gyflymu a sicrhau’r newid hirdymor mewn cenhedlaeth yr ydym yn gweithio’n galed i’w gyflawni, yn enwedig i’n plant a’n pobl ifanc, a’n sector diwylliannol ar lawr gwlad.”
Dywedodd Alwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam: “Os ydyn ni’n ennill y gystadleuaeth hon ac yn dod yn Ddinas Diwylliant y DU gyntaf yng Nghymru, bydd yn un o’r cyfnodau gorau yn hanes Wrecsam.
“Mae Wrecsam eisoes yn gweithio’n galed i gyflawni ei photensial llawn, ac yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld adfywiad o’r Stryd Fawr a’r marchnadoedd dan do, trawsnewidiad yr Hen Lyfrgell yn ganolfan greadigol, ac aileni Amgueddfa Wrecsam – sydd bellach hefyd yn gartref i Amgueddfa Bêl-droed Cymru.
“Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £5 miliwn i helpu i drawsnewid Stryt Henblas, Stryt Caer a hen safle yr Hippodrome, ac mae’r clwb pêl-droed hefyd yn gwneud cynnydd aruthrol gyda’r Kop newydd yn SToK Cae Ras.
“Byddai ennill y gystadleuaeth hon yn rhoi hwb i hyder a thwf Wrecsam, ac rwy’n gwybod y byddai Wrecsam yn Ddinas Diwylliant y gallai Cymru a’r DU fod yn falch ohoni.”


