Os ydych chi’n byw i ffwrdd o’ch tref enedigol yn ystod y flwyddyn academaidd, oeddech chi’n gwybod y gallwch gofrestru i bleidleisio yn eich cartref a’ch cyfeiriad yn y brifysgol?
Mae hyn yn golygu, waeth ble rydych chi pan fydd etholiad, gallwch gael llais.
Y blwch pleidleisio yw’r man lle rydych chi’n dweud eich dweud ar bwy sy’n eich cynrychioli, yn lleol neu’n genedlaethol, ac yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan.
Os nad ydych chi’n cofrestru, ni allwch bleidleisio, mae mor syml â hynny.
Mae gallu cofrestru yn y ddau le yn golygu y byddwch bob amser yn cael cyfle i fwrw eich pleidlais.
Cofiwch mai eich cyfle nesaf i bleidleisio yw Mai 2027 yn yr etholiadau lleol felly, ble bynnag y byddwch chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu dweud eich dweud trwy ymweld â gwefan GOV.UK i gofrestru yn y ddau gyfeiriad.
Dim ond un rheol sydd – dim ond unwaith y gallwch chi bleidleisio! Gall pleidleisio ddwywaith fod yn anghyfreithlon – yn dibynnu ar yr etholiad – felly edrychwch ar y rheolau yn Myfyrwyr | Y Comisiwn Etholiadol


