Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Digwyddiadau

Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni

Diweddarwyd diwethaf: November 3, 2026 10:56 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
RHANNU

Mae Wrecsam yn paratoi i groesawu tymor yr ŵyl, gyda diwrnod llawn o weithgareddau ac adloniant wedi’i gynllunio ar draws canol y ddinas ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd.

Cynnwys
  • Marchnad Grefftwyr Wrecsam – O 10.00am
  • Adloniant byw a gweithdai llusernau – O 11.00am
  • Cynnau’r Goleuadau Nadolig – 4.30pm
  • Cyngerdd Goleuadau Byw Dôl yr Eryrod – o 5.30pm
  • Dechrau gwych i dymor yr ŵyl

Marchnad Grefftwyr Wrecsam – O 10.00am

Bydd y dathliadau’n dechrau am 10.00am ar Sgwâr y Frenhines, lle bydd Marchnad Grefftwyr Wrecsam yn cynnig ystod eang o stondinau sy’n gwerthu anrhegion wedi’u gwneud â llaw, nwyddau crefft, a bwyd a diod boeth.

Mae’n gyfle gwych i ddechrau siopa Nadolig, codi rhywbeth unigryw a chefnogi masnachwyr lleol.

Adloniant byw a gweithdai llusernau – O 11.00am

Bydd adloniant byw yn dechrau ar Sgwâr y Frenhines o 11am, gyda pherfformiadau trwy gydol y prynhawn yn helpu i greu’r awyrgylch Nadoligaidd cyn y goleuadau.

O 2pm ymlaen, bydd gweithdai addurno llusernau ar Sgwâr y Frenhines hefyd i blant a theuluoedd eu mwynhau cyn gorymdaith llusernau Hospis Tŷ’r Eos.

Cynnau’r Goleuadau Nadolig – 4.30pm

Bydd y prif ddigwyddiad yn cael ei gynnal tua 4.30pm, pan fydd y dorf yn ymgynnull ar Sgwâr y Frenhines ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig swyddogol.

Ar ôl i’r goleuadau gael eu cynnau, bydd yr Orymdaith Nadolig, sy’n cynnwys gorymdaith llusernau Hospis Tŷ’r Eos, yn teithio trwy ganol y ddinas i Ganolfan Siopa Dôl yr Eryrod.

Gall plant a hoffai gymryd rhan yn yr orymdaith llusernau gofrestru trwy wefan Hospis Tŷ’r Eos. Cost cofrestru yw £6 y plentyn, ac mae oedolion sydd gyda nhw yn gallu cymryd rhan am ddim.

Cyngerdd Goleuadau Byw Dôl yr Eryrod – o 5.30pm

Bydd y dathliadau’n parhau yng Nghanolfan Siopa Dôl yr Eryrod o 5.30pm, gyda chyngerdd byw yn dod â digwyddiadau’r diwrnod i ben.

East 17 fydd prif artistiaid y cyngerdd, ynghyd â rhestr o berfformwyr gan gynnwys Lois Brooks, Owen Paul, Max Sarrre, Liam Halewood, Urban Fusion a mwy.

Dechrau gwych i dymor yr ŵyl

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol  dros Fusnes, yr Economi a Thwristiaeth: “Mae Cynnau’r Goleuadau Nadolig bob amser yn ddigwyddiad poblogaidd yn Wrecsam, ac mae’n ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd a dechrau’r ŵyl.

“Mae hefyd yn adeg bwysig o’r flwyddyn i’n busnesau lleol, ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i ddod â mwy o bobl i ganol y ddinas, gan gefnogi ein siopau, masnachwyr a busnesau lletygarwch yn y cyfnod cyn y Nadolig.

“Gyda gweithgareddau yn digwydd trwy gydol y dydd, mae rhywbeth i bobl o bob oed ei fwynhau, ac mae’n gyfle gwych i weld canol y ddinas yn brysur ac yn llawn bywyd.

Mae Cynnau’r Goleuadau Nadolig Wrecsam yn cael ei gyflwyno i chi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn cydweithrediad â Fair Events Management, Hospis Tŷ’r Eos a Chanolfan Siopa Dôl yr Eryrod.

Rhannu
Erthygl flaenorol Vote Mewn dau le ar yr un pryd…
Erthygl nesaf bys deulawr Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

bys deulawr
Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol
Busnes ac addysg Arall
November 3, 2026
Vote
Mewn dau le ar yr un pryd…
Pobl a lle Busnes ac addysg
November 2, 2026
Ruthin Road Car Park
Wrecsam v Middlesbrough – cofiwch barcio a theithio 🚗🚌
Digwyddiadau
October 29, 2026
Armed Forces
Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
October 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 

October 28, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lleDigwyddiadau

Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029

October 27, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026

October 26, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

October 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English