Heddiw, cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol ddau ymgynghoriad i leihau niferoedd derbyn mewn dwy ysgol gynradd yn Wrecsam.
O 3 Tachwedd, 2026, bydd preswylwyr yn gallu dweud eu dweud ar leihau nifer y plant sy’n cael eu derbyn i flynyddoedd derbyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Pedr, yr Orsedd, ac Ysgol Gynradd Rhos-ddu.
Gofynnodd ysgolion Sant Pedr a Rhos-ddu i’r ymgynghoriadau hyn gael eu cynnal ar gyfer eu hysgolion ac, os penderfynir lleihau’r niferoedd, byddant yn ymuno â nifer o ysgolion cynradd eraill yn y fwrdeistref sirol sydd wedi gwneud yr un peth.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr aelod arweiniol dros addysg: “Ar draws Wrecsam, a’r DU gyfan, mae’r galw am leoedd mewn ysgolion cynradd wedi gostwng a rhagwelir y bydd yn gostwng ymhellach yn y blynyddoedd i ddod. Trwy weithredu nawr, mae ysgolion cynradd Rhos-ddu a Sant Pedr yn cyfyngu ar effaith y newid hwn ar yr ysgolion ac yn y pen draw yn gwella safonau addysg, fydd o fudd i holl ddisgyblion yr ardal.”
Bydd yr ymgynghoriadau hyn yn cael eu lansio ar 3 Tachwedd a byddant ar agor tan 17 Rhagfyr, 2026, gyda newidiadau i ddod i rym o fis Medi 2028.
Bydd y tîm ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cynigion, wyneb yn wyneb, ar y dyddiadau canlynol:
Ysgol Sant Pedr
Dydd Llun, 9 Tachwedd o 8:30am tan 9:30am
Dydd Mawrth, 10 Tachwedd o 2:45pm tan 3:45pm
Ysgol Rhosddu
Dydd Mercher, 11 Tachwedd o 8:30am tan 9:30am
Dydd Iau, 12 Tachwedd, o 2:45pm tan 3:45pm


