Ydych chi’n Drydanwr, Plymwr, Saer Coed neu Blastrwr cymwys sy’n chwilio am eich cyfle nesaf?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn recriwtio crefftwyr medrus a brwdfrydig i ymuno â’n Tîm Atgyweirio Tai.
Dyma’ch cyfle i fod yn rhan o weithlu ymroddedig sy’n cyflawni gwaith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol mewn cartrefi’r Cyngor ledled Wrecsam.
Pam ymuno â ni?
• Cyflog cystadleuol a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – Buddion pensiwn gwerthfawr sy’n helpu i sicrhau eich dyfodol ariannol.
• Hawl hael i wyliau blynyddol
• Cyflogaeth sefydlog gydag awdurdod lleol sefydledig
• Cyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol
• Amgylchedd gwaith cefnogol fel rhan o dîm
• Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion lleol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan grefftwyr profiadol sy’n ymfalchïo yn eu gwaith ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth proffesiynol o safon uchel.
Gwnewch gais drwy wefan swyddi swyddogol y Cyngor.


