A ydych chi’n rhedeg gwasanaeth a fyddai’n gallu helpu neu gefnogi iechyd a lles unigolyn?
Gall hynny olygu unrhyw beth yn amrywio o fusnes bach i grŵp cymunedol prysur.
Tra mae’r cyngor yn cynnig gofal mwy ffurfiol, mae yna gymaint o bobl a all helpu gyda’r hyn yr ydym yn ei alw’n “gefnogaeth anffurfiol”.
Gall hynny ymorol am lawer o bethau.
Mae rhai pethau y gellir eu darparu gan fusnesau, megis trinwyr gwallt symudol, garddwyr a glanhawyr.
Ond gellir hefyd ei drin mewn grwpiau cymunedol – unrhyw beth yn amrywio o glybiau cinio i sesiynau bingo.
Gallent helpu mewn ffordd nad ydym ni’n gallu, a hynny gan lenwi’r bylchau na all y trefniadau gofal arferol yr ydym ni’n eu cynnig eu cyrraedd fel rheol.
Ac mewn sawl achos, gall y math hwn o gefnogaeth fod yn anhepgorol, a helpu rhywun i aros yn eu cartref yn hirach.
Darllenwch ymlaen os ydych yn credu y gallech helpu – mae hyd yn oed yn gyfle i hysbysebu am ddim!
Dewis Cymru
Ein nod yw darparu rhestr sy’n hawdd i’w ddefnyddio o’r gwasanaethau hyn i gyd, sy’n rhoi cyfle i bobl y mae arnynt angen cefnogaeth i ddod o hyd i’r cymorth y maent ei hangen.
Dyma ble y mae Dewis Cymru yn berthnasol.
Gwasanaeth ar-lein yw Dewis sy’n helpu i gysylltu’r bobl hynny mewn angen am gefnogaeth.
Er bod y gwaith y tu ôl i Dewis yn cynnwys llawer o wahanol bartneriaid a darparwyr, mae’r gwasanaeth ei hun yn eithaf syml a hawdd i’w ddefnyddio.
Mae Dewis yma i helpu i gyfarwyddo pobl at y gwasanaethau y maent eu hangen, ac ar ochr arall y geiniog, mae’n helpu’r gwasanaethau cymorth i gysylltu â phobl y gallent eu helpu o bosibl.
A’r newyddion gwych yw – mae cofrestru yn RHAD AC AM DDIM!
Os ydych yn credu y gallech helpu, ewch i’r wefan www.dewis.cymru chofrestru eich manylion.
Mae cofrestru gyda Dewis ac ychwanegu eich gwybodaeth yn hawdd, mae’r wefan yn darparu’r holl gyfarwyddiau sydd ei angen arnoch.
Ond am fwy o arweiniad neu wybodaeth am y gwasanaeth hwn, cysylltwch â’n swyddogion drwy commissioning@wrexham.gov.uk
“Gallent gynnig help llaw pan nad ydym ni’n gallu”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae Dewis Cymru yn adnodd amhrisiadwy. Yn ogystal â sicrhau bod y bobl hynny sydd angen cefnogaeth yn ymwybodol y gallent ddod o hyd iddo gyda Dewis, rydym hefyd eisiau sicrhau bod yr holl ddarparwyr sydd â’r gallu i helpu hefyd wedi cofrestru gyda ni.”
“Mae llawer ohonynt yn gallu helpu pan nad ydym ni’n gallu, ac mae Dewis yn cyhoeddi eu gwasanaethau i ddefnyddwyr yn gyfan gwbl yn rhad ac am ddim.”
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL