Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?
Pobl a lleY cyngor

A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?

Diweddarwyd diwethaf: 2021/04/30 at 10:56 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?
RHANNU

A ydych chi wedi bod yn ystyried newid gyrfa?

A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?

A ydych chi erioed wedi ystyried cynnig cartref i blentyn?

A oes gennych chi ystafell wely sbâr?

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

A ydych yn 21 mlwydd oed neu’n hŷn?

Mae nifer o resymau pam nad yw plant yn gallu byw gyda’u teuluoedd biolegol, p’un a yw hynny yn y tymor byr neu’r hirdymor.

Mae ystod eang o drefniadau gofal y gallwch ddod yn rhan ohonynt, gan gynnwys maethu plentyn, mabwysiadu plentyn neu ddarparu llety â chymorth.

Mae gwasanaethau plant Cyngor Wrecsam yn chwilio am bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sydd â’r nodweddion i gynnig cartref diogel a gofalgar i blant Wrecsam i’w galluogi i aros yn eu cymuned i gynnal perthnasoedd pwysig gyda theulu, ffrindiau ac addysg.   A allech chi annog a chefnogi plant i fwynhau eu plentyndod, cael llawer o hwyl, creu atgofion gwerthfawr, tyfu a datblygu’n hyderus, cyrraedd eu potensial llawn, cyflawni canlyniadau cadarnhaol, a helpu i’w paratoi ar gyfer oedolaeth a symud ymlaen i fyw’n annibynnol pan fyddant yn barod? Mewn rhai achosion, gall pobl ifanc aros gyda’u gofalwr nes y byddant yn 21 neu’n 25 oed, yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau unigol.

Rydym yn recriwtio am ystod eang o ofalwyr i blant a phobl ifanc rhwng 0 ac 18 oed yn y tymor byr a’r hirdymor, gan gynnwys:

Rhiant a phlentyn.  A allwch chi helpu teulu i aros gyda’i gilydd drwy fod yn ofalwr maeth rhiant a phlentyn? Mae gofalwyr maeth rhiant a phlentyn yn cynnig cefnogaeth i famau a thadau naill ai ar y cyd neu ar wahân i ofalu am eu plentyn (neu blant); drwy rôl fodelu cadarnhaol, darparu amgylchedd diogel a llawn cariad, cymell rhieni i sefydlu patrwm a gwella eu sgiliau rhianta i fodloni anghenion unigol eu plentyn.

Pobl ifanc.  Gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn eu harddegau; eu cefnogi i ddygymod â thyfu i fyny, dysgu sgiliau newydd, datblygu talentau a diddordebau, derbyn mwy o gyfrifoldebau, arbrofi a pharatoi ar gyfer annibyniaeth a datblygu hunaniaeth unigol.  Mae ein pobl ifanc angen gofalwyr a fydd yn cynnig diogelwch, ffiniau, canllawiau, cadernid, empathi a hiwmor wrth iddynt baratoi at fod yn oedolion.

Plant ag anableddau. A allech chi ddarparu gofal arbenigol i blant ag anghenion meddygol, anghenion corfforol, neu anghenion dysgu cymhleth? Mae gofalu am blant yn rôl werthfawr, yn arbennig plant ag anableddau, wrth i chi eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial.  Mae gofalwyr yn cynnig gofal tymor byr a hirdymor, gan gynnwys egwyliau byr. Byddwch yn derbyn hyfforddiant arbenigol, a chymorth a chyngor parhaus.

Brodyr a Chwiorydd.  Mae darparu gofal i frodyr a chwiorydd i sicrhau fod unedau teuluol yn aros gyda’i gilydd i gynnal y cysylltiad arbenigol rhwng brodyr a chwiorydd yn hanfodol. Mae’r buddion sydd ynghlwm â brodyr a chwiorydd yn aros gyda’i gilydd pan fyddant yn profi colled neu wahaniad, yn cynnig cysur a sicrwydd iddynt ac yn helpu plant i beidio â phoeni am eu brodyr a’u chwiorydd. Mae brodyr a chwiorydd yn rhannu hunaniaeth gyffredin, a gyda’i gilydd, gallant gynnig cymorth i’r naill a’r llall.

Tymor byr. Gofalu am blentyn nes y byddant yn gallu dychwelyd at eu teulu biolegol neu symud ymlaen at drefniant gofal hirdymor. Mae hyd gofal tymor byr yn ddibynnol ar amgylchiadau unigol ac yn amrywio o aros yn rhywle am noson, ychydig ddyddiau neu ychydig fisoedd.

Hirdymor. Pan nad yw’n bosibl i blant ddychwelyd at eu teuluoedd am gyfnod sylweddol o amser, mae’n rhaid gwneud trefniadau gofal hirdymor er mwyn cynnig gofal diogel a chyson i blant nes y byddant yn oedolion, neu cyn hynny, yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau unigol.

Gofal seibiant.  Gofalu am blentyn am gyfnod penodol, h.y ychydig ddyddiau, penwythnos, yn ystod gwyliau ysgol i gefnogi teuluoedd biolegol neu’r gofalwyr maeth presennol. 

Llety â chefnogaeth.  A allech chi ddarparu llety â chefnogaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed sydd angen cymorth, anogaeth a chanllawiau i ddatblygu sgiliau a hyder i’w paratoi ar gyfer byw’n annibynnol? 

Byddwn yn cynnig cymorth i chi 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, lwfans a buddion gwych eraill, hyfforddiant rhagorol a chyfleodd dysgu parhaus, a byddwn yn eich cefnogi drwy bob cam.  Byddwch yn derbyn cefnogaeth ac arbenigedd gan ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys gofalwyr maeth.  Byddwch yn rhan o dîm gofalgar, brwdfrydig a hwyliog sy’n canolbwyntio ar y plentyn a bob amser ar gael i gynnig y cyngor, cefnogaeth a’r canllawiau cywir.

Gwyddwn y bydd gennych gwestiynau yr hoffech chi eu gofyn, ac rydym ni yma i siarad â chi.  Os hoffech chi siarad â’r tîm, ffoniwch  01978 295316.  Byddwn yn fodlon ateb POB UN o’ch cwestiynau a darparu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys siarad â gofalwyr maeth i glywed eu profiadau, i’ch cynorthwyo i gymryd y cam nesaf i ymuno â ni a bod yn rhan o rywbeth arbennig a chefnogi plant Wrecsam.

Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â’n gwefan neu cysylltwch â ni dros e-bost

E-bost: maethu@wrexham.gov.uk

Gwefan: https://www.wrecsam.gov.uk/service/gofal-cymdeithasol-i-blant/maethu

Rhannu
Erthygl flaenorol CLICIO A CHASGLU – MANNAU PARCIO BELLACH AR GAEL AR Y STRYD FAWR A STRYD HOLT CLICIO A CHASGLU – MANNAU PARCIO BELLACH AR GAEL AR Y STRYD FAWR A STRYD HOLT
Erthygl nesaf Census 2021 Myfyrwyr yn cael eu hannog i gwblhau’r cyfrifiad ar gyfer eu llety yn ystod y tymor nawr

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English